Iechyd Meddwl
Rydym i gyd yn gwybod bod ymarfer yn dda i’r corff ond ceir mwy a mwy o dystiolaeth ei fod yn dda i’r meddwl hefyd.
Yn ogystal â sicrhau bod y galon a’r ysgyfaint yn pwmpio, gall gweithgarwch corfforol:
- lleddfu emosiynau negyddol;
- ei gwneud yn haws i chi gysgu;
- lleddfu pryderon;
- gwella hunanhyder a delwedd y corff;
- rhoi hwb i egni;
- newid agwedd a chreu synnwyr cyffredinol o les meddyliol.
Gwelwyd bod sesiynau gweithgarwch corfforol yn helpu unigolion i allu byw’n annibynnol. Mae pobl wedi ailddechrau cymysgu yn eu cymuned ac wedi adfer eu hyder yn sgil ymarfer.
Yn allweddol, ar gyfer y rhai sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl, mae ymarfer yn gallu bod yn rhywbeth cymdeithasol, gan leihau’r teimlad cyffredin o fod yn ynysig.
Astudiaethau achol perthnasol:
I weld sut wnaeth Llamau cyf, elusen pobl ifanc ym Mro Morgannwg, elwa o’r hyn mae gweithgaredd corfforol yn cynnig i’w staff a defnyddwyr gwasanaeth,cliciwch yma.
Cyflwyniad Sector Corfforedig Gwirfoddol CChC
Os ydych yn awyddus i sbardino rhywbeth i ddigwydd yn eich mudiad neu cymuned, pam lai na taflu golwg dros y cyflwyniad hwn a gweld rhai o’r prosiectau sydd wedi’u cefnogi gan Cyngor Chwaraeon Cymru hyd hyn (nodwch bydd yn cymryd peth amser i’r ddogfen lwytho lawr):
