Trefnu Gweithgareddau yn Eich Cymuned

Plant a Theuluoedd

Teulu yn mwynhau yr awyr agored enfawrMae gordewdra’n air cyffredin iawn erbyn hyn, am y rhesymau anghywir i gyd. Mae’r cyfraddau wedi cynyddu bedair gwaith yn ystod y 25 mlynedd diwethaf ac yn ôl Arolwg Iechyd Cymru 2004-05, mae rhyw 55% o oedolion yn or-dew neu dros eu pwysau yn awr.

Mae gordewdra ymhlith plant yn cynyddu o hyd hefyd. Ac chan fod gan blant gor-dew 80% o siawns o dyfu i fod yn oedolion gor-dew, mae’r genhedlaeth nesaf yn wynebu oes o ddioddef o iechyd wael.

Mae pawb ohonom yn gwybod beth sydd raid i ni ei wneud i fyw’n iach ond ychydig iawn ohonom sy’n gwneud hynny yn ymarferol. Dylai plant fod yn cymryd rhan mewn 60 munud o weithgarwch corfforol bum niwrnod yr wythnos ac mae oedolion angen cymryd rhan mewn 30 munud o weithgarwch. Ond yng Nghymru, dim ond y canlynol sy’n cyflawni hyn:

  • 41% o blant ysgolion cynradd;
  • 24% o blant ysgolion uwchradd;
  • 34% o oedolion.

Er mwyn newid hyn, mae’r Cyngor Chwaraeon yn ceisio newid diwylliant plant Cymru. Drwy gael pobl ieuainc i fwynhau amrywiaeth eang o weithgareddau corfforol pleserus, rydym yn gobeithio sicrhau eu diddordeb a’u hymrwymiad am oes.

Bydd amgylchynnu plant gyda chyfleoedd egnïol ble bynnag maent yn mynd o gymorth iddynt gyrraedd – a rhagori ar – y targed dyddiol o 60 munud.

Mae’r manteision i blant yn ymestyn y tu hwnt i’r manteision amlwg. Gall bod yn egnïol eu helpu i:

  • ghwneud ffrindiau newydd;
  • ymlacio a dianc oddi wrth waith ysgol;
  • lleddfu straen a thensiwn;
  • rhoi hwb i hunanhyder;
  • osgoi diflastod;
  • gwella sgiliau cyfathrebu;
  • datblygu hyder.

Mae rhieni’n chwarae rhan allweddol yn agwedd plant at chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ond nid oes raid iddynt aros ar y llinell ochr. Mae cyfranogiad gan reini’n darparu model rôl ardderchog ac yn arwain at fanteision ffitrwydd i’r teulu cyfan.

Mae bod yn egnïol yn gyfle cymdeithasol gwych i’r rhieni hefyd. Yn hytrach nag eistedd o gwmpas yn aros am y plant tra maent yn nofio neu’n ymarfer, gall y rhieni ddod at ei gilydd ar gyfer eu gweithgarwch eu hunain.

Hefyd, dylai plant a theuluoedd sy’n dod at ei gilydd ar gyfer gweithgareddau eraill feddwl am fod yn egnïol. Mae cynnwys gweithgarwch mewn cyfarfodydd, sefydlu sialensau rhwng clybiau neu drefnu digwyddiadau codi arian egnïol yn ffordd ragorol o ehangu apêl y clwb a chynnal diddordeb yr aelodau.

Astudiaethau achol pertnasol:

I weld sut mae Mamau ym Mlaenau Gwent wedi troi mewn i chwaraewyr pêl rwyd rheolaidd ar ôl mynychu sesiynau pêl rwyd eu plant, cliciwch yma.

Cyflwyniad Sector Corfforedig Gwirfoddol CChC

Os ydych yn awyddus i sbardino rhywbeth i ddigwydd yn eich mudiad neu cymuned, pam lai na taflu golwg dros y cyflwyniad hwn a gweld rhai o’r prosiectau sydd wedi’u cefnogi gan Cyngor Chwaraeon Cymru hyd hyn (nodwch bydd yn cymryd peth amser i’r ddogfen lwytho lawr):

Cyflwyniad Gwirfoddol