Clwb Ieuenctid yn rhoi mwy o ddewis i ffitrwydd
Roedd Eglwys Deuluol Coastlands yn Y Barri eisoes yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i bobl ieuainc lleol gyda chlwb ieuenctid wythnosol yn cynnig llu o weithgareddau dan do.
Ond sylweddolodd yr Eglwys bod modd gwneud rhagor o waith da yn y gymuned. Roedd nifer o bobl ieuainc lleol yn hepgor gweithgarwch corfforol yn llwyr ac roedd rhai o’r cyfranogwyr presennol yn dangos bod ganddynt le i wella.
Gwelodd yr Eglwys y gallai sesiynau gweithgarwch ychwanegol greu newid, a symudwyd y gweithgareddau allan i’r awyr agored i ehangu eu hapêl.
Gyda’r nod hwn i’w gyrraedd, aeth yr Eglwys at y Cyngor Chwaraeon am gyngor a chefnogaeth ariannol. Bu grant gwerth £700 gan y Gist Gymunedol o gymorth i dalu am offer chwaraeon newydd ac i hyfforddi gwirfoddolwyr, fel bod yr Eglwys yn gallu cynnig pêl fasged, pêl droed a phêl rwyd – dan oruchwyliaeth gymwys i gyd.
Wrth i’r cyfranogiad gynyddu, mae’r Eglwys yn gobeithio gwella profiadau’r ieuenctid brwd ymhellach – y tro hwn drwy gofrestru timau mewn twrnamentau ble gallant brofi eu sgiliau yn erbyn clybiau ieuenctid eraill.
