Camau salsa at ffitrwydd
Roedd trefnwyr Prosiect Octopws yn Ystradgynlais yn gwybod bod dosbarthiadau dawns yn gallu bod yn ffordd hwyliog, gymdeithasol a chyfleus o annog gweithgarwch corfforol.
Drwy gynllunio dosbarth salsa rheolaidd, nod Octopus oedd cyrraedd y bobl nad oeddent yn cymryd rhan mewn ymarfer fel rheol. Byddai’r sesiynau’n cael eu targedu’n bennaf at bobl yn byw ar y stad ble roedd y prosiect wedi’i leoli, ond roedd croeso i bobl o’r gymuned ehangach hefyd, drwy gyfrwng ymgyrch hysbysebu eang.
Bu’r Cyngor Chwaraeon yn helpu Powys i lansio’r fenter gyda grant gwerth £610 gan y Gist Gymunedol.
Roedd y cyllid yn galluogi i Octopus gynnal cyfres o 12 o sesiynau salsa dan arweiniad dau athro proffesiynol. Darparodd y trefnwyr feithrinfa am ddim i blant yn ystod y sesiynau hefyd, gan ddileu un o’r rhwystrau mwyaf cyffredin sy’n atal gweithgarwch corfforol.
Mae’r dosbarthiadau wedi bod o gymorth i ddenu pobl newydd at y prosiect ac maent yn cael eu defnyddio yn awr i hybu gweithgareddau a gwasanaethau eraill. Yn ogystal â hybu iechyd a lles, mae’r cyfranogwyr yn datblygu eu sgiliau cymdeithasol tra’n magu hyder.
