Ambiwlans Sant Ioan yn newid pedair olwyn am ddwy
Nid dim ond iechyd y cyhoedd sydd ar feddwl prif elusen gymorth cyntaf y DG ...
Gyda chymorth Cyngor Chwaraeon Cymru, gall ychwanegu beiciau at ei fflyd o ambiwlansys yn awr – gan wella iechyd ei wirfoddolwyr tra’n cynnig gofal brys mewn argyfwng.
Roedd gwasanaeth Ambiwlans Sant Ioan ym Mhowys angen cefnogaeth ariannol bellach ar gyfer y prosiect Ymateb Ar Feic. A llwyddodd yr elusen gyda grant gwerth £750 gan y Gist Gymunedol, drwy gyfrwng y Cyngor Chwaraeon.
Bu’r cyllid o gymorth i brynu beiciau mynydd ar gyfer eu defnyddio mewn digwyddiadau ledled Canolbarth Cymru – yn amrywio o rasys hwyl a marathonau i ddigwyddiadau cymunedol a gorymdeithiau ar strydoedd.
Yn ogystal â darparu gwasanaeth amhrisiadwy i’r cyhoedd, gall staff yr elusen wella eu sgiliau beicio, gan sicrhau manteision i’w iechyd a’u lles drwy feicio eu ffordd at ffitrwydd.
Mae Ambiwlans Sant Ioan yn gobeithio y bydd y datblygiad hwn yn eu gwasanaeth yn denu aelodau newydd – pobl sy’n awyddus i fynd ar gefn eu beic a helpu i sicrhau cynnydd yr elusen.
