Prc Sglefrio'n cynnig opsiwn iach i bobl ieuainc
Mae Aberbargoed ym Mro Morgannwg wedi profi gostyngiad o 58% yn y troseddau anhrefn cymdeithasol ers i’r Cyngor Chwaraeon helpu’r Awdurdod Lleol i sianelu egni’r bobl ieuainc lleol.
Yn 2003, agorwyd Hanger 81, parc sglefrio dan do modern iawn. Gyda chefnogaeth y Bartneriaeth Plant ac Ieuenctid, mae’r ganolfan yn gwasanaethu 1600 o aelodau ym mwrdeistref Caerffili.
Mae’n arena llawn rampiau, neidiau a llwybrau, fel bod sglefrfyrddwyr, beicwyr BMX a sglefrwyr mewnlinell yn cael defnyddio eu hegni i berffeithio eu sgiliau ac i herio eu gorau personol. Yn ogystal â gostwng lefelau troseddu, mae’r ganolfan yn helpu i ddatblygu lefelau hyder defnyddwyr a’u sgiliau cymdeithasol.
Mae’r heddlu wedi canmol cyflawniadau’r ganolfan gan briodoli’r gostyngiad mewn ymddygiad anghymdeithasol i agoriad y cyfleuster.
Gyda heddweision yn ymweld â’r ganolfan yn rheolaidd ac yn pwysleisio’r angen am offer personol ag arno god diogelwch, mae’r safle wedi troi’n fodel ar gyfer ymddygiad cymdeithasol a chyfrifol.
Yng ngeiriau PC Williams o’r Bargoed: "Mae’r prosiect hwn yn dangos sut gall dull aml-asiantaeth o weithredu i atal anhrefn arwain at ganlyniadau positif tu hwnt."
