Trefnu Gweithgareddau yn Eich Cymuned

Syrffwyr Arian Canolfan Hamdden Llanisien

Dydych chi byth yn rhy hen i fod yn egnïol ac mae canolfannau hamdden ledled Cymru’n darparu gweithgareddau ar gyfer y brid newydd o ‘Syrffwyr Arian’ – pensiynwyr sydd eisiau cadw’n heini, cael hwyl a gwneud ffrinidau newydd.

Mae Canolfan Hamdden Llanisien yn esiampl dda, gyda phobl yn eu 50au, eu 60au a’u 70au’n chwarae badminton a bowlio mat byr yn rheolaidd, ac yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau dawns ac aerobics.

I ddysgu mwy am y gweithgareddau yn eich canolfan hamdden leol, ewch i wefan eich awdurdod lleol.

I weld y ‘syrffwyr arian’ ar waith, ewch i wefan Actif Cymru, cliciwch ar Gillian Elisa pan ofynnir i chi ddewis cyflwynydd a chwiliwch am Ganolfan Hamdden Llanisien ar ei map rhyngweithiol.