Trefnu Gweithgareddau yn Eich Cymuned

SyM Rhaeadr yn Barod Amdani

Heklping to build friendships while delivering a lasting benefit to healthMae aelodau Sefydliad y Merched Rhaeadr ym Mhowys wedi tynnu’r llwch oddi ar eu hesgidiau ymarfer er mwyn elwa o grant gwerth £750 gan y Gist Gymunedol.

Dechreuodd y merched fod yn egnïol pan ddechreuodd trefnyddion SyM bryderu am ddiffyg gweithgarwch corfforol yr aelodau. Mewn ymdrech i wella eu hiechyd yn gyffredinol, cyflwynwyd cyfres o ddosbarthiadau cylchedau yn y cyfarfodydd wythnosol.

Mae’r dosbarthiadau, sydd wedi’u llunio gan hyfforddwr cymwys, yn seiliedig ar anghenion a galluoedd yr aelodau. Mewn criw ble ceir amrywiaeth o ran gallu i symud, roedd yn allweddol cynnwys trefn hyblyg a fyddai’n herio pawb ac yn eithrio neb.

Wedi cael blas, mae’r criw yn bwriadu mynd gam ymhellach yn awr a sefydlu clwb cerdded bob pythefnos i fwynhau’r cefn gwlad lleol. Bydd peth o’r grant yn cael ei ddefnyddio i logi bws mini fel eu bod yn gallu amrywio mannau cychwyn a gorffen y teithiau.

Mae’r merched yn teimlo bod agwedd gymdeithasol gref yn perthyn i’r gweithgarwch newydd ac mae hynny o gymorth i’r aelodau wneud ffrinidau ac elwa o fanteision iechyd.