Mamau’n cynnig pêl rwyd ym Mlaenau Gwent
Mae mamau yn Nhredegar a fu’n cadw cwmni i’w plant drwy ymuno yn eu hymarfer pêl rwyd wedi dechrau chwarae’r gêm yn rheolaidd yn awr.
Wedi cymryd rhan yn y sesiynau cynhesu, magwyd hyder i fod yn egnïol a daeth Sesiynau Cadw’n Heini Mamau a Phlant Clwb Pêl Rwyd Tredegar yn achlysur rheolaidd.
Bu’r Cyngor Chwaraeon yn helpu’r clwb i sicrhau mwy o gyfranogiad gyda grant gan y Gist Gymunedol i dalu am offer sylfaenol a chostau hyfforddi i ddysgu sgiliau pêl sylfaenol i blant.
Ymatebodd partneriaid y prosiect, Canolfan Chwaraeon Tredegar, Datblygiad Chwaraeon Blaenau Gwent a Thîm Pêl Rwyd Merched Tredegar gydag offer ychwanegol, yn cynnwys peli, peli sbwng, pyst chwythadwy, cylchoedd, bagiau ffa a rhaffau sgipio.
Wedi llwyddiant dechreuol y prosiect, bu’r Gist Gymunedol o gymorth i’r cynllun ehangu drwy brynu offer ychwanegol ar gyfer 40 o bobl ieuainc.
Mae’r rhieni wedi cymryd cymaint o ran erbyn hyn fel eu bod wedi dangos diddordeb mewn hyfforddi. Felly mae’r Cyngor Chwaraeon yn ymateb unwaith eto – y tro hwn gyda grant i dalu am gostau hyfforddi’r rhieni.
