Trefnu Gweithgareddau yn Eich Cymuned

Prosiect Iechyd Meddwl Ponthafren a Llanidloes yn mwynhau sesiynau blasu

Mae Ponthafren yn ganolfan iechyd meddwl galw-i-mewn yn Y Drenewydd sy’n cynnal cyrsiau hyfforddi a phrosiect allgyrraedd yn Llanidloes ar gyfer aelodau 16-90 oed.

Yn ddiweddar, mae’r prosiect allgyrraedd wedi cynnig i’r aelodau 4 diwrnod o weithgareddau blasu, yn cynnwys saethyddiaeth a chaiacio, gyda dosbarthiadau dilynol ar gyfer y bobl sydd wedi datblygu diddordeb yn eu gweithgareddau newydd.

Hefyd mae’r cynllun yn cynnig teithiau wythnosol i gampfa leol ble mae pobl a eithrir yn gymdeithasol yn gallu ymarfer mewn amgylchedd cyfforddus. Hefyd, gall yr aelodau gymryd rhan mewn ioga, badminton, nofio a cherdded, gan fagu mwy o hyder a gwella eu gallu i ryngweithio’n gymdeithasol.

I weld y prosiect ar waith, ewch i wefan Actif Cymru, cliciwch ar Iolo Williams pan ofynnir i chi ddewis cyflwynydd a chwiliwch am 'ioga iechyd meddwl' ar fap rhyngweithiol Iolo.