Bowlio i sicrhau calon a meddwl iach
Mae cleifion adfer cardiag Rhondda Cynon Taf wedi camu ar y lawnt fowlio ac wedi darganfod manteision corfforol a seicolegol y gamp.
Gofynnodd y cleifion eu hunain am i weithgarwch ysgafn gael ei gynnwys yn eu cynllun adfer. Felly, ffurfiwyd rhaglen fowlio Wood’n’Hearts gyda chefnogaeth y criw adfer cardiag a’r Awdurdod Lleol.
Roedd y grwp newydd yn chwarae’n rheolaidd ond, heb eu peli eu hunain, dim ond gydag offer y clwb ar Lawnt Gelli Galed yn ystod yr haf y gallent chwarae.
Ymatebodd y Cyngor Chwaraeon i’r broblem gyda grant gwerth £750 gan y Gist Gymunedol, i dalu am gostau sawl set o beli. Roedd hyn yn galluogi i’r bowlwyr chwarae yng Nghanolfan Hamdden y Rhondda yn ystod misoedd y gaeaf.
Mae’r sesiynau’n gyfle i’r cleifion ymarfer oddi mewn i’w cyfyngiadau eu hunain ac mae agwedd gymdeithasol y gamp yn golygu eu bod wedi dod yn ffrindiau da iawn.
Gyda chymorth y Cyngor Chwaraeon, mae criw y Wood’n’Hearts yn bowlio eu ffordd at iechyd drwy gydol y flwyddyn – ac wrth i’r galw gynyddu, mae bwriad i gynnal mwy a mwy o sesiynau yn y dyfodol.
