Trefnu Gweithgareddau yn Eich Cymuned

Beth all y Cyngor Chwaraeon ei wneud i chi..

Rydym yma i’ch helpu i sefydlu eich rhaglen newydd.

Byddwn yn awgrymu gweithgareddau addas i’ch clwb ac i broffil eich cymuned. Byddwn yn sicrhau cyswllt rhyngoch a swyddog cefnogi lleol a fydd yn gallu dewis hyfforddwyr neu arweinwyr sesiwn. Byddwn hyd yn oed yn gallu helpu gyda chostau hyfforddi arweinwyr gwirfoddol o bosibl, fel eu bod yn gallu cymryd yr awennau a chadw’r costau hirdymor i lawr.

Os yn sefydlu prosiect lleol, gall grant refeniw bychan fod o gymorth gyda chostau offer. A phan fydd angen uwchraddio eich adeilad ar gyfer gweithgareddau corfforol, efallai y bydd cyllid ar gael ar ffurf grant i dalu am fân-welliannau.