Datblygu eich gweithgareddau craidd
Er bod amrywiaeth yn siwr o sicrhau cyfranogiad eich cymuned, rydym hefyd yn ymroddedig i ddatblygu prif weithgareddau eich clwb. Byddwn yn falch o gael cyllido unrhyw brosiect a fydd yn cynyddu eich aelodaeth neu’n codi safonau perfformio. Gall hyn gynnwys hyfforddiant, gwella cyfleusterau neu brynu offer newydd – neu unrhyw beth arall a fydd yn cyrraedd nodau eich clwb yn eich tyb chi.
Mae cyllid ar gyfer rhaglenni gweithgarwch newydd ar gael drwy gyfrwng rhaglenni Buddsoddi Cymunedol. Am wybodaeth bellach, cliciwch yma.
Am wybodaeth bellach am eich camp, cliciwch yma.
