Trefnu Gweithgareddau yn Eich Cymuned

Racedi rhydlyd yn dod i'r golwg unwaith eto

Get out those rusty rackets!Wedi’u cuddio mewn cypyrddau ledled Cymru mae racedi tenis rhydlyd a arferai gael llawer iawn o sylw – yn unig a segur ac yn drist iawn iawn. Ond gyda chymorth y Cyngor Chwaraeon, mae rhaglen denis newydd ym Mro Morgannwg wedi achub dwsinau o racedi rhag blynyddoedd o esgeulustod.

Mae grant gwerth £550 gan y Gist Gymunedol wedi helpu rhaglen ‘Racedi Rhydlyd’ Clwb Athletau’r Barri i roi cyfle i bobl ailddarganfod y gamp ryfeddol hon.

Bydd oedolion sy’n dymuno gwella eu hergydion yn derbyn hyd at 90 munud o hyfforddiant wythnosol fel rhan o sesiynau ymarfer anffurfiol y clwb. Mae’r clwb hefyd yn gobeithio meithrin amgylchedd cymdeithasol, gan chwalu’r rhwystrau arferol sy’n atal oedolion rhag cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol iach.

Efallai fod y chwarae’n flêr ar y dechrau, ond yn y pen draw, mae’r rhaglen yn gwella gêm pawb ac yn rhoi’r hyder maent ei angen i chwarewyr newydd a’r rhai sy’n dychwelyd at y gamp.

Mae ‘Racedi Rhydlyd’ yn cadw at amcan y Cyngor Chwaraeon o gael newydd-ddyfodiaid i wella eu ffitrwydd, eu hiechyd a’u lles – tra’n dangos bod rhieni egnïol yn gallu gosod esiampl dda i’w plant.

Yn dynn ar sodlau’r ymgyrch ymaelodi ar y dechrau, mae’r clwb yn awyddus i gofrestru chwaraewyr ‘rhydlyd’ eraill. Bydd y niferoedd ar y cyrtiau’n ddigon uchel i’r cynllun gael ei redeg yn annibynnol wedyn. Felly bydd raid i Roger Federer fod yn ofalus iawn...