Clwb Rhedeg Glynebwy
Mae Clwb Rhedeg Glynebwy’n darparu ar gyfer rhedwyr o bob math. Ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi gwneud ymdrech arbennig i gynnwys mwy o ferched.
Mae’r clwb yn cyfarfod yn y ganolfan hamdden leol, gyda sesiynau gyda’r nos wythnosol yn denu mwy na 30 o oedolion. Ceir trawsdoriad da o redwyr bob amser, a chyda staff y ganolfan hamdden yn ymuno, ceir digon o gymorth i aelodau newydd sydd eisiau dod i ddeall sut mae pethau’n gweithio.
I weld sut mae Clwb Rhedeg Glynebwy’n gwneud cynnydd, ewch i wefan Actif Cymru, cliciwch ar Gillian Elisa pan ofynnir i chi ddewis cyflwynydd a chwiliwch am Glwb Rhedeg Glynebwy ar fap rhyngweithiol Gillian.
