Trefnu Gweithgareddau yn Eich Cymuned

Heini ar gyfer tenis yn y Fro

Getting fit for tennis in the ValeMae Clwb Tenis Lawnt y Bontfaen wedi bod yn hafan iach i bobl leol ers peth amser, gan wasanaethu’r gymuned gyda manteision gweithgarwch corfforol rheolaidd. Ond gan weld y potensial ar gyfer mwy o gyfranogiad, pennodd y clwb feysydd targed i’w datblygu’n ddiweddar.

Ceisiodd y trefnyddion gynyddu cyfranogiad y genethod er mwyn gwella hunanhyder a’r pleser o’r gamp. Ond i ddechrau, roedd raid i’r clwb hyfforddi dau hyfforddwr cynorthwyol i wella’r gymhareb hyfforddwr-i-fyfyrwyr.

Aethant at y Cyngor Chwaraeon am gymorth i ddatblygu eu syniadau, a chawsant grant gwerth £750 gan y Gist Gymunedol. Bu’r arian hwn o gymorth i’r clwb ddarparu 6 awr o sesiynau blasu am ddim i enethod rhwng 12 a 14 oed, a 6 awr o wersi am ddim ar gyfer chwaraewyr addawol.

Mae hyfforddiant y clwb wedi gwella yn awr i ddiwallu gofynion yr aelodau newydd, gyda’r grant yn talu am gostau hyfforddi ar gyfer dau hyfforddwr 17 oed, fel eu bod yn gallu mynychu cwrs hyfforddi tenis newydd UKCC1.

Mae’r grant wedi gwella hyfforddiant tenis mini’r clwb hefyd drwy helpu i brynu offer tenis mini a pharatoi’r plant lleol ar gyfer y gweithgarwch iach y cymerir rhan ynddo pan yn chwarae tenis wrth iddynt ymuno â’r oedolion.