Trefnu Gweithgareddau yn Eich Cymuned

Plant Ceredigion yn cadw'n heini

Plant Borth yn chwarae pêl droedMae’n rhaid bod yn greadigol a gwreiddiol weithiau er mwyn cadw’n heini ac roedd hyn yn wir yn sicr am bentref Borth.

Heb dîm pêl droed lleol, nid oedd y plant lleol yn cael cyfle i ddysgu am fanteision iechyd cymryd rhan mewn gweithgarwch chwaraeon yn rheolaidd. Felly penderfynodd criw o famau pryderus y byddai’n syniad da sefydlu tîm newydd – a rhoi cyfle i’w plant fwynhau’r gamp.

Drwy gysylltu â’r Cyngor Chwaraeon am gyngor a chefnogaeth, sefydlwyd Tîm Pêl Droed Bois y Graig gyda chymorth grant gwerth £750 gan y Gist Gymunedol.

Bu’r cyllid o gymorth i’r tîm ifanc brynu offer hanfodol a thalu costau hyfforddi rhieni i fod yn Swyddogion Cymorth Cyntaf ac Arweinwyr Pêl Droed.

Mae’r ymarfer a’r gemau rheolaidd wedi gwneud byd o wahaniaeth i naw o blant ac mae trefnyddion Bois y Graig yn chwilio am gynyddu eu haelodaeth i 15 yn awr.

Amcan y tîm yn yr hirdymor yw dal ati i ehangu gan roi cyfle i fwy o blant yn y pentref fynd ar y cae – gan sgorio mwy a sicrhau buddugoliaeth i’w hiechyd hefyd.