Trefnu Gweithgareddau yn Eich Cymuned

Beth am denis yng Nghaersws?

'Mae tenis i bawb'Gallai Powys fod yn fagwrfa newydd ar gyfer tenis, diolch i ymdrechion clwb lleol deinamig. Ac ychydig o gymorth gan Gyngor Chwaraeon Cymru.

Mae Clwb Tenis Caersws yn sicrhau bod y gamp yn gyfleus i bobl o bob oed mewn ymgais i annog pobl leol i fod yn fwy egnïol, ac i roi gwybod i bobl ieuainc bod ‘Tenis i Bawb’.

Gwelodd y clwb ei gyfle i newid y farn am denis fel camp elitaidd drwy gael yr aelodau presennol i rannu eu sgiliau gyda dechreuwyr llwyr.

Hefyd manteisiwyd ar gyfleoedd i ddatblygu cysylltiadau iach gydag ysgolion lleol a grwpiau cymunedol, gan eu hannog i fanteisio ar lifoleuadau’r clwb drwy gydol y flwyddyn.

Gyda chefnogaeth grant gan y Gist Gymunedol, drwy gyfrwng y Cyngor Chwaraeon, mae’r Cyngor yn llwyddo i gyflawni ei amcanion yn awr – gyda’r cyllid hefyd yn helpu i hyfforddi aelodau’r clwb i fod yn arweinwyr tenis.

A chyda llu o fentrau newydd, mae’r clwb yn dal ati i ddenu aelodau newydd. Mae dyddiau a nosweithiau agored, sesiynau hyfforddi cyflwyniadol a dyddiau gweithgarwch i deuluoedd wedi helpu’r teuluoedd lleol i ddod at ei gilydd i gyd – er budd eu hiechyd.