Clybiau Chwaraeon
Cael hyd i aelodau newydd ar gyfer… 
clybiau rygbi…clybiau pêl droed…clybiau tenis…clybiau criced…clybiau rhedeg…clybiau athletau…grwpiau chwaraeon ymladd…canolfannau hamdden…clybiau iechyd…
Wrth redeg eich clwb chwaraeon lleol, rydych bob amser yn chwilio am aelodau newydd a chyfleoedd i godi arian. A gallech gyflawni’r ddau amcan yma drwy estyn allan i’r gymuned ac ehangu eich rhaglen o weithgareddau.
Pa gamp bynnag yr ydych yn cymryd rhan ynddi, gallwch ddefnyddio eich cyfleusterau i wella proffil y clwb a sicrhau refeniw ychwanegol.
Er enghraifft, a ydych wedi ystyried...?
- Cael rhieni i fod yn egnïol wrth iddynt ollwng eu plant;
- Dosbarthiadau aerobics, dawns neu ffitrwydd yn y clwb neu yn yr awyr agored;
- Sesiynau hwyl i’r teulu yn eich parc neu yn y cae chwarae lleol;
- Cynghreiriau cymdeithasol cymysg – pêl rwyd neu bêl foli cymysg;
- Grwpiau cerdded, beicio neu loncian yn dechrau ac yn gorffen yn y clwb.
Gydag ychydig o ymdrech, gallai eich clwb fod yn ganolfan gweithgarwch corfforol eich cymuned. Gallech wahodd busnesau lleol i ddefnyddio eich cyfleusterau hyd yn oed, neu estyn allan a chroesawu’r grwpiau llai egnïol i’ch clwb.
Hefyd gallech roi cynnig ar addasu eich camp eich hun i gynnwys y llai ystwyth. Os ydych yn rhedeg clwb rygbi, beth am gynnwys cyn-chwaraewyr, feterans neu dimau cymysg mewn Rygbi TAG? Os yn glwb athletau, beth am gyflwyno adran gerdded·
Drwy gynnwys eich cymuned, gall eich clwb ddenu diddordeb ysgolion, busnesau a grwpiau gwirfoddol lleol – ffordd ddiogel o greu llif newydd o aelodau parod i gymryd rhan.
Drwy wneud y defnydd gorau o’r cyfleusterau, byddwch yn codi arian tra’n gwneud yr hyn sy’n naturiol i chi – cael mwy o bobl yn fwy egnïol yn amlach. A gall y Cyngor Chwaraeon eich helpu gyda hyn.
Mae gwefan un-pwrpas wedi’i sefydlu i gynnwys pob agwedd o glybiau chwaraeon. Bwriad Clybiau Chwaraeon Cymru yw cynnig cymorth ymarferol ynghylch sut i ddechrau a datblygu eich clwb i gynnig y gwasanaeth gorau posibl i’ch aelodau. Mae’n cynnig syniadau a thempladau ar sut i sefydlu a rhedeg clwb chwaraeon / gweithgarwch corfforol ac yn darparu llawer o dempladau syml i chi eu llwytho a’u defnyddio.
