Beth all y Cyngor Chwaraeon ei wneud i chi…
Rydym yma i’ch helpu i roi bywyd newydd yn eich cyfleusterau awyr agored ... a bywyd newydd yn eich cymuned.
Byddwn yn eich helpu i sefydlu eich gweithgareddau, gan ddarparu cyfarwyddyd drwy gydol yr amser, o’r syniad gwreiddiol drwodd i weithredu iach.
Gyda’r gefnogaeth leol briodol, byddwn yn sicrhau eich bod yn dewis y gweithgareddau addas i’ch sefyllfa. Byddwn yn eich helpu i gael hyd i hyfforddwr neu arweinydd fel bod pob sesiwn yn rhedeg yn esmwyth. A byddwn yn eich helpu gyda hyfforddi arweinwyr gwirfoddol fel eu bod yn gallu cymryd yr awennau a sicrhau cyn lleied o gostau ag y bo modd.
Wrth sefydlu prosiect cymunedol, gallwn helpu gyda chostau offer gyda grant refeniw bychan. A phan fydd eich cyfleuster angen gwedd newydd, byddwn yn darparu cefnogaeth grant ar gyfer mân-welliannau.
Ym mhob rhan o Gymru, mae gennym gefn gwlad godidog ar garreg y drws. Mae’r cyfleoedd yn y wlad hon i anadlu awyr iach a bod yn heini’n ddigyffelyb.
Felly pan ydych yn barod i fod yn heini neu i hybu ffitrwydd yn yr awyr agored, mae’r Cyngor Chwaraeon yn barod i helpu.
