Sesiynau Ymarfer Bygi yn Knighton
Mae criw o famau ifanc yn Knighton, Powys, wedi datrys problem oesol: sut i gymysgu bod yn rhiant ag ymarfer pan nad oes gennych amser – na chymorth i ofalu am eich plant!
Gyda Chanolfan Chwaraeon Knighton, sefydlodd Grŵp Dan 5 Knighton ‘Ymarfer Bygi’ lle mae mamau’n cael ymarfer tra’n cerdded gyda’u plant, dan oruchwyliaeth hyfforddwr cymwys.
Mae’r grŵp yn cyfarfod ddwywaith yr wythnos, felly mae’n achlysur cymdeithasol (egnïol ) gwych i’r mamau a’r plant fel ei gilydd.
I weld Grŵp Dan 5 Oed Knighton ar waith, ewch i wefan Actif Cymru, cliciwch ar Iolo Williams pan ofynnir i chi ddewis cyflwynydd a chwiliwch am 'Ymarfer Bygi Knighton' ar y map.
