Trefnu Gweithgareddau yn Eich Cymuned

Trothwy'r Awyr Agored

Gweithgareddau Awyr Agored ar "garreg eich drws" Llwybrau Cerdded a Beicio

Codi allan a bod yn egniol yn lleol...

yn y parc...ar rostir…ar laswellt…ar lwybrau cerdded a beicio…mewn coetiroedd cymunedol...mewn canolfan weithgarwch awyr agored...mewn gofod agored...ar yr arfordir…

Does dim raid i chi loncian i gopa’r Wyddfa i wneud yn fawr o amgylchedd naturiol Cymru. Waeth ble rydych yn byw, fyddwch chi ddim yn bell oddi wrth gae chwarae perffaith yn yr awyr agored.

Mae eich cyfleusterau lleol yn cynnig cyfleoedd diddiwedd ar gyfer hamdden a ffitrwydd. Ac wrth i chi godi allan a bod yn heini ar garreg y drws, gall y Cyngor Chwaraeon eich helpu i ddatblygu gweithgareddau:

Grwpiau cymunedol – gallech fod yn gweithio gyda wardeniaid parc, fel "Ffrindiau’r Parc". Wrth i chi adfywio’r safle, beth am ddatblygu rhaglen lawn o weithgareddau, fel teithiau cerdded gyda thema neu gyfeiriannu hwyliog i deuluoedd?

Perchnogion parciau – a yw eich parc angen gwedd newydd? Fel arwyddion, raciau beiciau neu lwybr cerdded gyda’ch camau wedi’u cyfrif?

Grwpiau crwydro a cherdded – beth am ddatblygu rhaglenni cerdded a sgwrsio neu ymuno â phapur newydd cymunedol i noddi ymgyrch aelodaeth?

Clybiau beicio – beth am gynnal cyrsiau sgiliau beicio mewn parciau, coetiroedd neu goedwigoedd? Neu raglen llogi beiciau neu gynnal a chadw beiciau?

Grwpiau amgylcheddol – gallech redeg cynllun benthyg beic neu ddatblygu llwybrau trim ar gyfer byw’n iach.

Wardeniaid cefn gwlad a pherchnogion coetiroedd – rhowch gynnig ar ddatblygu adrannau cyswllt i ymuno traciau beicio â llwybrau troed, neu lwybrau cylch byr ar gyfer dechreuwyr.

Awdurdodau lleol – datblygu rhaglen weithgarwch corfforol yn yr awyr agored. Cydlynu ymdrechion y Gwasanaethau Hamdden, Datblygu Chwaraeon a Chefn Gwlad i wneud defnydd llawn o barciau a gofod agored.

Cerdded a Grwpiau CyfeiriannuCanolfannau hamdden – rhowch gynnig ar sefydlu grwpiau cerdded neu gyfeiriannu yn cychwyn ac yn gorffen yn y ganolfan.

Canolfannau awyr agored – allwch chi estyn allan at eich cymuned leol? Beth am gynnwys teuluoedd cyfan gyda sialensau amrywiol sy’n cyd-fynd â’ch prif weithgareddau.

Waeth pa fath o sefydliad ydych chi, gall y Cyngor Chwaraeon eich helpu i godi allan a chael mwy o bobl yn egnïol yn amlach. Byddwch angen gwybod rhai pethau syml am y cyfleuster ar garreg eich drws:

  • A ydych wedi cael caniatâd i’w ddefnyddio?
  • A yw mewn cyflwr diogel a da ar gyfer gweithgarwch corfforol?
  • A yw’n gyfleus?
  • A yw’n agos at gyfleusterau eraill?
  • A yw’n addas ar gyfer pob oedran a gallu?
  • A fydd y gweithgaredd yn cael effaith ar ddefnyddwyr eraill?

Yn syml, a yw’n addas ar gyfer eich grwp a’ch gweithgaredd chi. Os mai ydyw yw’r ateb, gall y Cyngor Chwaraeon helpu.