Trefnu Gweithgareddau yn Eich Cymuned

Beth all Cyngor Chwaraeon Cymru wneud i chithau…

Rydym yma i’ch helpu i redeg eich gweithgareddau, gan ddarparu cyfarwyddyd o’r syniad gwreiddiol i’w weithredu’n iach.

Byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â phobl leol a all eich helpu i ddewis gweithgareddau addas i’ch sefyllfa. Byddwn yn eich helpu i gael hyd i hyfforddwr neu arweinydd sesiwn i wneud i’ch rhaglen redeg yn esmwyth. A byddwn yn helpu gyda chost hyfforddi arweinwyr gwirfoddol fel eu bod yn cael cymryd yr awennau a sicrhau cyn lleied ag y bo modd o gost.

Os ydych yn sefydlu prosiect lleol, gall grant refeniw bychan fod o gymorth i dalu costau’r offer. A phan fydd eich adeilad angen ei wella ar gyfer gweithgareddau corfforol, gallwn ddarparu cymorth grant i dalu am welliannau bychain – gan wneud yn siwr bod eich gweithgareddau’n cael eu cynnal mewn amgylchedd cynnes a diogel.

Dyma rai enghreifftiau o sut rydym wedi helpu grwpiau i roi bywyd newydd yn eu cymunedau…