Symud iechyd yn nes adref
Nid oedd dosbarthiadau ffitrwydd cyfleus ar gael i bobl Soffrydd ym Mlaenau Gwent. Ond diolch i grant gan y Gist Gymunedol, mae dosbarth ymarfer newydd yn cael ei gynnal yn eu canolfan gymunedol leol.
Datgelodd ymgynghoriad cymunedol bod rhyw 20 o breswylwyr yn teithio i Abertileri ar gyfer dosbarthiadau ffitrwydd tra oedd y lleill yn cael trafferth i wneud y siwrnai. Felly penderfynodd yr Awdurdod Lleol gynnig cyfle ar garreg eu drws iddynt, gan dreialu dosbarth ymarfer modern yno.
Bu’r Cyngor Chwaraeon yn helpu Canolfan Gymunedol Soffrydd i sicrhau grant, i helpu gyda thalu am offer a chostau tiwtoriaid ar gyfer cynllun peilot 10 wythnos – i geisio denu digon o gyfranogwyr rheolaidd i wneud y dosbarthiadau’n hunangynhaliol.
Gyda phobl Soffrydd yn manteisio yn awr ar y cyfle ar ‘garreg eu drws’, mae’r cynllun wedi creu llwybr at iechyd yng nghalon y gymuned.
