Campfa Fighting Fit
Arferai Campfa Fighting Fit yn Griffithstown fod yn fecws segur, ond yn 2006, cafodd ei hadnewyddu’n llwyr – gyda chyllid rhannol gan grant y loteri gan Gyngor Chwaraeon Cymru.
Heddiw, mae’n academi ffitrwydd a chwaraeon ymladd sy’n agored i’r gymuned gyfan ac yn darparu ar gyfer pob oedran a lefel gallu. Mae’r dosbarthiadau’n cynnwys Taekwando, cylchedau, dawns ac aerobics, yn ogystal ag amrywiaeth o raglenni hyfforddiant personol a cholli pwysau.
Os ydych eisiau gweld mwy o wybodaeth am Gampfa Fighting Fit, ewch i wefan Actif Cymru, cliciwch ar Dewi Pws pan ofynnir i chi ddewis cyflwynydd a chwiliwch am Gampfa Fighting Fit ar fap rhyngweithiol Dewi.
