Trefnu Gweithgareddau yn Eich Cymuned

Dawnsio Neuadd Ddawns yn Llangors

Mae pobl Llangors ym Mhowys wedi bod yn symud yn arddull glasurol ‘Come Dancing’.

Gwelodd criw o bobl leol sut allai’r gymuned elwa o ddawnsio dipyn ar y llawr dawnsio ac felly cyflwynwyd Dosbarth Dawnsio i Ddechreuwyr Llwyr yn Neuadd Gymunedol Llangors.

Cyllidwyd dosbarthiadau’n cynnwys y waltz, y step gyflym, y cha-cha a’r tango gan grant gan Gyngor Chwaraeon Cymru, sydd i gyd yn cefnogi pob math o fentrau ar gyfer cadw’r cymunedau ar flaenau eu traed!

I weld sut mae’r gymuned yn camu ei ffordd at iechyd, ewch i wefan Actif Cymru, cliciwch ar Iolo Williams pan ofynnir i chi ddewis cyflwynydd a chwiliwch am Langors ar fap rhyngweithiol Iolo.