Adeiladau Cymunedol
Cadw’n heini yn lleol yn eich… 
…neuadd dref…neuadd bentref…neuadd ysgol…neuadd lles y gweithwyr…cwt y sgowtiaid…neuadd yr eglwys…y festri…y ganolfan gymunedol… neu unrhyw fan cyfarfod arall yng nghalon eich cymuned.
Pan yn rheoli adeilad cymunedol, rydych yn codi arian ac yn recriwtio gwirfoddolwyr yn dragywydd.
Mae’n bur debyg eich bod wedi gweld mai ehangu’r gweithgareddau a gynigir yw’r ffordd orau o ddenu pobl newydd i’ch adeilad. Felly gallai cyflwyno mwy o weithgareddau corfforol fod yn ddelfrydol ar gyfer eich cymuned:
- Gallech drefnu clwb cerdded wythnosol, yn cychwyn ac yn gorffen yn y neuadd.
- Gallech gynnwys clwb neu grwp lleol, fel Sefydliad y Merched. Trefnwch sesiwn ffitrwydd hwyliog i ddechrau, hanner awr cyn y cyfarfodydd wythnosol.
- Sefydlu clwb bowlio newydd dan do. Trefnu twrnamentau, cynghreiriau lleol…
- Hybu eich dosbarth dawnsio eich hun – rhoi cynnig ar fath newydd o ddawns bob wythnos!
- Dysgu Aerobics 3 noson yr wythnos – Dechreuwyr, Canolraddol ac Uwch.
- Targedu’r rhai dros 40 oed gyda’u rhaglen gadw’n heini eu hunain. Dysgu Dawnsio Bol iddynt, heb anghofio am Ioga, Tai Chi, Pilates…
- Lansio Clwb Merched – cyfle i ollwng y plant yn yr ysgol ac yna ymuno â’r merched i gerdded, beicio neu ddawnsio mewn dosbarth efallai.
- Neu Glwb Racedi Rhydlyd – hafan i chwaraewyr sydd wedi’u hanghofio. Rhowch gynnig ar denis, badminton neu denis bwrdd mini. Does dim rhaid rhedeg marathon!
Mae’r dewis o weithgareddau corfforol yn ddiddiwedd ond cyn i chi benderfynu ar gynllun penodol, mae ychydig o waith ymchwil i’w wneud:
- Sawl ystafell addas sydd yn eich adeilad cymunedol·
- Mae gweithgareddau corfforol angen digon o ofod. Faint sydd ar gael?
- A oes modd i ddefnyddwyr cadair olwyn ddod i’r adeilad?
- A yw eich lloriau, eich goleuadau, y waliau a’r gwresogi’n addas i’r gweithgaredd arfaethedig?
- A yw’r nenfwd yn ddigon uchel?
- A oes gofod storio ar gyfer eich offer?
- A oes ystafell addas a all ddyblu fel man newid?
- A oes deunydd tawelu sain yn yr adeilad?
- A oes llwyfan ar gael os oes angen?
- A oes llawr addas ar gyfer gemau awyr agored, yn cynnwys glaswellt ar gyfer gweithgareddau yn ystod yr haf?
- A oes golau y tu allan ar gyfer misoedd y gaeaf?
- Ac yn olaf, pa weithgareddau fyddai’n boblogaidd gyda’ch cymuned leol?
Gall y cwestiynau hyn eich helpu i lunio rhaglen addas o weithgareddau. Ond hefyd bydd raid i chi wybod a oes gweithgareddau tebyg yn cael eu cynnig gerllaw eisoes ac, wrth gwrs, pa un ai oes arweinydd cymwys ar gael ar gyfer y sesiynau.
