Trefnu Gweithgareddau yn Eich Cymuned

Trefnu Gweithgareddau yn Eich Cymuned

Creu ysbryd cymunedol Mae dull o fyw Egnïol yn lledu gorwelion a cryfhau y corff a'r meddwl

Yng Nghyngor Chwaraeon Cymru, ein nod yw cael mwy o bobl yn egnïol yn amlach. Felly, fel rhan o’n rhaglen Cymunedau Egnïol, rydym yn gweithio gyda grwpiau lleol i wella iechyd y genedl.

Rydym yn annog pawb i gymryd rhan mewn rhyw fath o ymarfer cymedrol ddwys 5 niwrnod yr wythnos. Rydym yn gofyn i oedolion fod yn egnïol 30 munud y dydd ac i blant fod felly am 60 munud.

Rydym i gyd yn gwybod bod unigolion iach yn byw bywydau hapusach a hirach. Mae ffordd egnïol o fyw yn ehangu gorwelion ac yn cryfhau’r corff a’r meddwl – felly meddyliwch sut all rhannu gweithgarwch corfforol wella bywyd yn eich cymuned.

Gall sefydliadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a chlybiau chwaraeon, ynghyd â gwell defnydd o adeiladau cymunedol a chyfleusterau awyr agored, helpu i greu cymunedau mwy ffyniannus ac egnïol – a gwneud gwahaniaeth iach i bobl Cymru.

Er mwyn adfywio eich ardal leol a gweld sut all y Cyngor Chwaraeon eich helpu chi, cliciwch ar un o’r cysylltiadau isod:

Gyda chefnogaeth lawn a chyfleoedd cyllido, mae’r Cyngor Chwaraeon ar gael i’ch helpu chi i greu bywyd yn eich cymuned unwaith eto.