Cynradd - Yn Y Parth

Y diweddaraf am Yn Y Parth
Ers lansio ‘Yn Y Parth’ fis Ebrill 2005, mae ysgolion cynradd mewn Awdurdodau Lleol ledled Cymru wedi elwa o gefnogaeth a hyfforddiant sy’n ceisio eu galluogi i wneud gwell defnydd o’u chwaraele yn ystod amser cinio.
Hyd yma, mae mwy na 200 o ysgolion wedi elwa o ‘Yn Y Parth’. Tynnodd Conwy a Chaerffili sylw at ddatblygu’r chwaraele fel maes blaenoriaeth yn ystod y flwyddyn ysgol ddiwethaf. Roedd ysgolion cynradd Conwy i gyd yn cymryd rhan yn ‘Yn Y Parth’. Yng Nghaerffili, mae’r Uned Ddatblygu Chwaraeon wedi gweithio’n broactif er mwyn sicrhau cyllid i gefnogi’r gwaith o weithredu Yn Y Parth o ddwy ffynhonnell, sef CGN a’r Gynghrair Iechyd. Ar y dechrau, dim ond i ysgolion Canolfannau Datblygu’r cynllun AGChY y cynigiwyd ‘Yn Y Parth’ond mae’r cyllid ychwanegol wedi galluogi ehangu’r cynllun i bob ysgol, gan ei wneud yn angenrheidiol er mwyn cael marciau newydd ar y chwaraele. Cyflwynodd 39 o ysgolion geisiadau ac mae’r grant o ychydig dros £50,000 yn eu galluogi i ddarparu marciau ym mhob ysgol a wnaeth gais. Hefyd, gwnaed cais llwyddiannus am grant i’r Gynghrair Iechyd allu defnyddio tiwtor ‘Yn Y Parth’. Ar hyn o bryd, mae 24 ysgol wedi derbyn hyfforddiant ar gyfer 104 o Oruchwylwyr Canol Dydd a 12 o Gynorthwywyr Cefnogi’r Dysgu.
Mae’r adborth wedi dangos bod ‘Yn Y Parth’ wedi bod yn arbennig o fuddiol i ysgolion ble ceir chwaraeleoedd bychain, diflas. Mae un ysgol o’r fath yn y fwrdeistref wedi mabwysiadu’r cynllun yn falch iawn. Roedd gan yr ysgol broblem am fod un gamp yn rheoli’r chwaraele, gyda nifer fawr o ddamweiniau ac anafiadau’n digwydd yn ystod y cyfnodau chwarae. Ers cyflwyno ‘Yn Y Parth’ mae cyfanswm y damweiniau dyddiol wedi gostwng o rhwng 15 ac 20 y dydd i ddim ond un neu ddwy. Mae’r pennaeth yn priodoli hyn i’r strwythur gwell sydd i’r chwaraele a’r amrywiaeth ehangach o weithgareddau sydd ar gael i’r plant. Mae’r ysgol wedi cyflwyno rota ar gyfer gemau tîm mawr hefyd, fel pêl droed, sy’n tueddu i reoli’r chwaraele a dychryn disgyblion iau. Mae’r ysgol wedi creu ‘Parth Timau’ lle gall y disgyblion chwarae gemau amrywiol ar ddyddiau penodol. Mae’r ysgol yn gweithredu diwrnod ‘dim pêl droed’ hefyd, gan annog y disgyblion i roi cynnig ar wahanol gemau yn y parthau amrywiol.
Mae’r staff a’r goruchwylwyr wedi gweld gwahaniaeth mawr yn ymddygiad y disgyblion yn ystod amser chwarae ac yn y gwersi, ac mae eu gallu i ganolbwyntio yn llawer gwell yn ystod gwersi’r prynhawn.
Astudiaethau Achos
