Pobl Ieuainc Egnïol

Iechyd Ffitrwydd a Lles

Hyfforddiant

Trefnir cyrsiau newydd ar gyfer Hydref/Gaeaf 2008. Bydd rhagor o fanylion am y cyrsiau ar gael cyn bo hir.

Mae rhaglen hyfforddi strwythuredig yn cael ei hehangu i gefnogi’r gwaith o weithredu’r adnoddau yn yr ysgolion cynradd. Mae sawl cwrs cynradd wedi’i gynnal mewn awdurdodau amrywiol yng Nghymru. Mae’r gwerthusiadau yn sgil y cyrsiau wedi bod yn eithriadol bositif.

Mae’r cyrsiau uwchradd yn cael eu hehangu drwy gyfrwng partneriaethau’r SAU a’r YAG. Mae’r gwerthusiadau yn sgil y cyrsiau cyntaf wedi bod yn bositif.

Mae 3 SAU yn cynnal cyrsiau cyfrwng Cymraeg hefyd. Mae rhai ysgolion wedi gofyn am gyrsiau cyfrwng Cymraeg, ac fe’u darparwyd. Mae adnoddau dwyieithog wedi bod o fantais i sicrhau bod y prosiect hwn ar gael i bob ysgol.

Adnoddau

Mae’r Ymddiriedolaeth Chwaraeon ar gyfer ieuenctid wedi bod yn cefnogi’r prosiect AGChY gan gynhyrchu’r adnoddau ar CD Rom. Dim ond i ysgolion a dderbyniodd hyfforddiant fydd yr adnoddau ar gael, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n briodol ac yn effeithiol. Mae’r adnoddau’n cynnwys CD Rom rhyngweithiol i gefnogi’r cyrsiau cynradd ac uwchradd. Hefyd, cynhyrchwyd llyfrynnau rhyngweithiol i’r disgyblion ar gyfer pob un cyfnod allweddol, o 1 i 4.