Pobl Ieuainc Egnïol

Gymnasteg

Cynhaliwyd dau arolwg ar anghenion datblygiad proffesiynol athrawon drwy gyfrwng ysgolion Canolfannau Datblygu’r cynllun AGChY. Tynnodd y ddau adroddiad sylw at lefel isel o wybodaeth a hyder wrth ddysgu Gymnasteg. Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu dull o weithredu sy’n gynyddol yng nghyfnodau allweddol 1 i 3 ar gyfer athrawon a disgyblion. Mae’r adnoddau a’r hyfforddiant yn darparu i athrawon weithgareddau, sgiliau, siapiau a gemau sy’n cyflwyno plant i gymnasteg mewn amgylchedd positif.

Adnoddau a Hyfforddiant:

Bydd y ffocws yn y lle cyntaf ar godi safonau a chynyddu lefelau hyder yr athrawon mewn ysgolion cynradd. Ymgynghorwyd â phob Ymgynghorydd AG a Darlithydd SAU ynghylch cynnwys yr adnoddau a’r hyfforddiant Gymnasteg. Mae Gymnasteg Cymru wedi bod yn bartner wrth ysgrifennu a datblygu'r adnoddau. Datblygwyd y dyfarniadau A i Z i gynnig cynnydd o'r dull AGChY o weithredu. Am wybodaeth bellach am Gymnasteg Cymru, cliciwch yma.

Modiwlau hyfforddi:

Cyflwynir yr hyfforddiant cynradd mewn 3 modiwl

Modiwl 1- Cyfnod Sylfaen / CA1

Modiwl Gymnasteg 1 AGChY

Modiwl 2 – Dechrau CA2

Modiwl Gymnasteg 2 AGChY

Modiwl 3 – Diwedd CA2 a newid

Cynigir yr hyfforddiant i athrawon uwchradd fel cwrs dilynol. Mae’r cwrs hwn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

Modiwl 4 – canolbwyntio ar y ddarpariaeth a’r cyfleoedd yn CA3. Mae’r cwrs hwn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a bydd yn cynnwys 4 modiwl arbenigol mewn Acrobatigau, Aerobics, Towlu a Gymnasteg Rhythmig.

Bydd raid i’r myfyrwyr naill ai fynychu modiwl 1, 2 a 3 y cyrsiau ar gyfer athrawon cynradd neu fynychu cwrs diwrnod cyffredinol i ddod i ddeall y dull AGChY o weithredu mewn perthynas â Gymnasteg ac i weld yn gyffredinol beth fydd disgyblion yn ei brofi ar bob lefel.

Mae’r weledigaeth ar gyfer cyflwyno’r hyfforddiant hwn yn ystod cwrs ymarfer dysgu yn cael ei hystyried gyda grwp o SAU, yn unol â’r newidiadau arfaethedig i’r strwythur, i’r cynnwys ac i’r amser sydd ar gael. Ar hyn o bryd mae sawl sefydliad yn cyflwyno cyrsiau Modiwl 1 i fyfyrwyr.

Sicrhawyd mynediad i ysgolion heb fod yn rhan o’r CD drwy wahodd ysgolion i fynychu cyrsiau a gynhelir drwy gyfrwng y CD a hefyd drwy gyfrwng cyfres o gyrsiau sy’n cael eu hehangu gan SAU ar ran y cynllun AGChY.

Ffurfiwyd cysylltiadau rhwng y prosiect Gymnasteg a phrosiectau eraill y cynllun AGChY, yn cynnwys:

  • Cwrs Ymarfer Dysgu – canlyniadau safonol ar gyfer hyfforddiant i athrawon cynradd yn cael eu treialu mewn 6 SAU ;
  • DPP – cytunwyd i ehangu cyrsiau athrawon Modiwl 1 a 2 gyda SAU’au ar gyfer 08/09
  • TGCh mewn AG – banc o ddelweddau gweledol i’w creu i gefnogi’r dull o weithredu a’r deunyddiau.

Strwythur hyfforddi:

Mae rhaglen hyfforddi strwythuredig o Hyfforddwyr Arweiniol, Hyfforddwyr Cenedlaethol, Tiwtoriaid Lleol a Mentoriaid wedi’i datblygu i gefnogi’r gwaith o weithredu’r adnoddau drwy gyfrwng y CD’au ac i’r ysgolion i gyd.

  • Awduron : Mitch Fenner / Jan Gadd / Jo Coombs / Sian Sanders;
  • Cyfieithwyr: Haf Roberts / Dewi Owens;
  • Datblygu Adnoddau: Jan Gadd;
  • Deunyddiau gweledol: Graham Haines / Adrian Clarke / Jan Gadd / Jo Coombs / Mitch Fenner;
  • Hyfforddwyr Cenedlaethol: Jan Gadd / Sian Sanders / Karen Rhys-Jones. Bydd yr hyfforddwyr yn darparu cefnogaeth ymgyfarwyddo i’r Hyfforddwyr Cenedlaethol, a fydd yn cynnwys darlithwyr SAU ac YAG.

Modiwl 1:

  • CD y Cyfnod Sylfaen yn cael ei diweddaru ar hyn o bryd.

Modiwl 2:

  • Yr wybodaeth i diwtoriaid yn cael ei diweddaru

Modiwl 3:

  • Cytuno ar y cynnwys yn fras, y gweithgareddau’n cael eu llunio ar eu ffurf derfynol, y gwaith o gynllunio’r adnoddau ar droed, y ffilmio i ddigwydd yn nhymor y gwanwyn, yr adnoddau i fod ar gael ar gyfer tymor yr Hydref 2009.

Modiwl 4:

  • Pwysig ar gyfer elfen greadigol ac iechyd, ffitrwydd a lles yr NC newydd yn arbennig, ond hefyd yr elfen gystadleuol;
  • Dewis o weithgareddau i fod ar gael i athrawon, yn cynnwys opsiynau gwrywaidd / benywaidd. Bydd y modiwl craidd yn dilyn yr un ffurf â’r tri modiwl blaenorol, fodd bynnag, bydd Modiwl 4 yn cynnig pedwar modiwl arbenigol ychwanegol mewn acrobatigau, towlu, aerobig a rhythmig, a bydd pob un o’r modiwlau hyn yn dair awr o hyd a gall yr athrawon ddewis mynychu un, dau neu dri modiwl neu bob un. Bydd adnoddau ar gael i gyd-fynd â’r modiwlau hyn.

Adnoddau:

Modiwl 1: Mae’r CD Rom yn cael ei diweddaru ar hyn o bryd i fod yn unol â chyflwyno’r Cyfnod Sylfaen.

Modiwl 2: Mae CD Rom wedi’i chynhyrchu i gefnogi’r hyfforddiant a llawlyfr i diwtoriaid, a bydd ar gael ar gyfer yr holl athrawon sy’n mynychu’r cwrs Gym Modiwl 2.

Modiwl 3: Ar hyn o bryd, cytunwyd ar gynnwys Modiwl 3 ac mae’r gwaith yn mynd i gael ei gwblhau yn yr hydref gyda’r dogfennau, y gwaith ffilmio a’r deunyddiau cefnogi i’w cwblhau ar gyfer y cyfnod datblygu adnoddau yn Haf 2009.

Modiwl 4: Ar hyn o bryd, cytunwyd ar gynnwys Modiwl 4 a bydd y gwaith yn cael ei gwblhau yn y gwanwyn gyda’r dogfennau, y ffilmiau a’r deunyddiau cefnogi i’w cwblhau ar gyfer cyfnod datblygu adnoddau yn ystod Hydref 2009.