Y Cyfnod Sylfaen
Cefndir
Mae Fframwaith y Cyfnod Sylfaen ar gyfer Addysg Plant 3-7 oed yng Nghymru’n dod yn ofynnol yn gyfreithiol drwy gyfrwng Gorchymyn a wnaed gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Cymru a daw i rym fis Medi 2008 ar gyfer pob plentyn 3-4 oed. Y Meysydd Dysgu statudol yn y Cyfnod Sylfaen yw:
- Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Diwylliannol
- Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Datblygiad Mathemategol
- Datblygiad yr Iaith Gymraeg
- Gwybodaeth am y Byd a Dealltwriaeth Ohono
- Datblygiad Corfforol
- Datblygiad Creadigol
Ar gyfer pob Maes Dysgu, mae’r rhaglen addysgol yn datgan beth ddylid ei ddysgu i blant ac mae’r canlyniadau’n datgan y safonau disgwyliedig ar gyfer perfformiad y plant.
Meysydd Ffocws a Blaenoriaethau
Gan gydnabod bod ethos y Cyfnod Sylfaen yn ‘gyfannol’ gyda’r saith Maes Dysgu i gyd yn cyd-fynd â’i gilydd, bydd ein dull o weithredu’n adlewyrchu hyn tra’n cydnabod mai ein cylch gorchwyl yw canolbwyntio ar feysydd penodol yn y cwricwlwm newydd. Mae ein cylch gorchwyl yn gyfyngedig i gyflwyno rhaglenni Pobl Ieuainc Egnïol (PIE) CChC yn gyffredinol ac, yn fwy penodol, i godi safonau mewn addysg gorfforol a chynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Y prif ffocws, felly, fydd:
- Datblygiad Corfforol
- Symudiad Creadigol (oddi mewn i Faes Dysgu Datblygiad Creadigol)
Bydd y ffocws ategol yn rhoi sylw i elfennau o:
- Datblygiad Personol a Chymdeithasol a Lles (oddi mewn i Faes Dysgu Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Diwylliannol)
Statws Cyfredol
Mae prosiect Cyfnod Sylfaen CChC yn cael ei ddatblygu i gefnogi’r holl rai sy’n ymarfer mewn ysgolion a gwahanol leoliadau eraill ledled Cymru. Ar hyn o bryd, ymgynghorir ynghylch y prosiect a bydd manylion pellach am ddatblygu adnoddau ar gael yn nes ymlaen.
