Pobl Ieuainc Egnïol

Prosiectau Arbenigol

Gwelwch y Prosiectau Arbenigol yma. Fel dewis arall, cliciwch ar y cysylltiadau isod am wybodaeth bellach.

Gymnasteg Gymnastics

Dull cynyddol o ddysgu gymnasteg fel rhan o broses ddiogel, hwyliog a syml. Mae Modiwl 1 yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd i fod yn unol â’r Cyfnod Sylfaen newydd, mae cyrsiau ac adnoddau Modiwl 2 yn parhau i gael eu hehangu ac mae Modiwlau 3 a 4 yn cael eu datblygu ar hyn o bryd.

Iechyd, Ffitrwydd a Lles

Dull syml ac effeithiol o gyflwyno IFfLl drwy gyfrwng pob agwedd ar AG ac AbaCh. Mae’r cyrsiau a’r adnoddau cynradd ac uwchradd yn cael eu hehangu ar hyn o bryd i bob ysgol. Mae Ffitrwydd Iechyd a Lles yn amnewid y cwrs Ymarfer Cysylltiedig ag Iechyd . Mae diweddariad dogfennau IFfLl Awst 2008 ar gael yma.

Dawns

Mae cyrsiau ac adnoddau (gwefan, cardiau a CD) ar gyfer athrawon Cyfnod Allweddol 2 ar gael yn awr ac yn cael eu hehangu. Mae Dawns ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a CA3 yn cael eu datblygu ar hyn o bryd a dylent fod ar gael y flwyddyn academaidd hon. Hefyd, mae cyrsiau ar gyfer mentoriaid athrawon ac ymarferwyr dawns yn cael eu hehangu ar hyn o bryd, ynghyd â chyfres o weithdai arfer orau ar gyfer athrawon drwy gyfrwng partneriaeth gyda Dawns Cymunedol Cymru.

TGCh mewn AGComputer03a

Cynhaliwyd dwy gynhadledd lwyddiannus yn darparu sgiliau a syniadau ymarfer i athrawon ar gyfer integreiddio TGCh mewn AG. Mae continiwm o ddefnydd cynyddol o TGCh mewn AG wedi’i ddatblygu ac fe’i cefnogir gan gyfres o weithdai a fydd ar gael drwy gyfrwng cynadleddau pellach. Mae prosiect trawsnewid i ddechrau y continiwm yn cael ei lawnsio yn Sir Fynwy yn Ebrill 2007.

Cynhwysiad

Mae modiwl DPP ar gyfer Cydlynwyr AG ac AAA yn bennaf ar gael yn awr. Mae’r rhai sy’n dilyn y modiwl yn mynychu 3 gweithdy yn ystod blwyddyn academaidd ac maent yn cynnwys edrych ar gynnwys mewn AG, cydnabod yr anghenion yn eu hysgol a rhannu arferion da cyfredol. Drwy ddefnyddio templad hunanwerthuso’r cynllun AGChY gyda nodiadau cyfarwyddyd ychwanegol, bydd yr athrawon yn asesu’r sefyllfa gyfredol yn eu hysgol hwy eu hunain ac yna’n datblygu cynllun gweithredu a weithredir ganddynt. Rhennir darganfyddiadau’r cynlluniau hyn yn y gweithdy terfynol. Mae 4 modiwl ychwanegol yn cael eu datblygu ar hyn o bryd, i dynnu sylw at anghenion penodol ac ehangir drwy gyfrwng y sesiynau gwyll yn yr ysgol.

Yn Y Parth In the zone (e-w)

Mae’r cwrs hyfforddi a’r adnodd rhyngweithiol ar gyfer goruchwylwyr canol dydd yn sicrhau rheolaeth effeithiol ar yr iard chwarae yn yr ysgol.

Cynradd - Yn Y Parth"

Yn Y Parth - ysgol uwchradd


Gweithgareddau Anturus (GA)

Mae hwn yn brosiect newydd sy’n cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â’r grwp o ymgynghorwyr ar gyfer addysg awyr agored yng Nghymru. Mae OEAP wedi datblygu cardiau Dysgu Awyr Agored sy’n cael eu hehangu ar hyn o bryd i ysgolion cynradd ac uwchradd, gyda chwrs hyfforddi undydd ar gyfer athrawon.

Y Cyfnod Sylfaen

Mae Fframwaith y Cyfnod Sylfaen ar gyfer Addysg Plant 3-7 oed yng Nghymru’n dod yn ofynnol yn gyfreithiol drwy gyfrwng Gorchymyn a wnaed gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Cymru a daw i rym fis Medi 2008 ar gyfer pob plentyn 3-4 oed.