Partneriaethau Canolfannau Datblygu
Partneriaethau Cynaladwy:
Clwstwr o ysgolion sydd naill ai’n derbyn swm fechan o arian neu ddim cyllid (hyd at £2,000), ond sy’n dal ati i gydweithio er mwyn sicrhau bod AG o safon uchel yn cael ei gyflwyno’n gyson. Gall y partneriaethau hyn ddal ati i elwa o gefnogaeth cyswllt yr ALl, y Cydlynydd AGChY neu’r ymgynghorydd AGChY. Gallant hefyd ddal ati i ymwneud â phrosiectau arbenigol AGChY ac elwa o gyfleoedd ac adnoddau DPP AGChY.
Canolfannau Datblygu:
Clwstwr o ysgolion sy’n derbyn cyllid llawn (£7-12,000) i lunio a gweithredu cynlluniau strategol a gweithredol yn seiliedig ar hunanadolygiadau AG sy’n rhoi sylw i agweddau amrywiol ar addysgu, dysgu ac asesu mewn AG. Bydd partneriaeth o’r fath yma’n dal ati i brofi syniadau, dulliau ac adnoddau newydd a gwreiddiol. Bydd cyfleoedd datblygu proffesiynol yn cael eu creu’n benodol er mwyn diwallu anghenion y staff yn ysgolion y partneriaethau. Bydd y partneriaethau hyn yn cynnwys cynllunio cynnwys a strwythurau prosiectau arbenigol y cynllun AGChY hefyd.
Canolfannau Penodol:
Clwstwr o ysgolion sy’n derbyn cyllid cyfyngedig (£2-6,000) i gefnogi cynllun strategol a gweithredol penodol sy’n rhoi sylw i un neu ddwy agwedd ar addysgu, dysgu ac asesu mewn AG ac sydd wedi’u harnewi drwy gyfrwng proses hunanadolygu AG. Bydd y partneriaethau hyn yn canolbwyntio mwy ar weithredu arfer dda yn hytrach na phrofi syniadau ac arferion newydd. Bydd gan ysgolion y bartneriaeth gyrsiau AGChY a drefnir yn unol â’u cynlluniau gweithredol.
Partneriaethau Datblygiad Proffesiynol:
Clystyrau o ysgolion yn defnyddio cyfleoedd ac adnoddau datblygiad proffesiynol parhaus drwy gyfrwng rhaglenni lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Hefyd, gall yr ysgolion hyn dderbyn cefnogaeth gan y Rheolwr Llinell, y Cydlynydd AGChY a’r Ymgynghorydd AGChY. Bydd astudiaethau achos o arfer dda ac adnoddau ar gael i’r ysgolion hyn hefyd.
Cylch Cynllunio AGChY:
Gofynir i ysgolion Canolfan Datblygu AGChY i ddefnyddio proses hunan-werthusiad sy'n seiliedig ar fframwaith arolygiad Estyn i arolygu AG yn eu hysgolion ar ddechrau eu ymrwymiad i'r prosiect AGChY. Defnyddir canlyniadau y gwerthusiadau i ysgrifennu cynllun strategol 3 mlynedd er mwyn penderfynu blaenoriaethau i'r clwstwr o ysgolion weithio ar. Mae angen danfon cynlluniau blynyddol ac adroddiadau cynnydd i gyrchu cyllid. Yma mae nodiadau cyfarwyddyd a templedi.
Cyfarfodydd Rhanbarthol RhCD Mehefin 2007
Ar gael yma mae deunydd o Gyfarfodydd Rhanbarthol Rheolwyr Canolfannau Datblygu Mehefin 2007.
