AGChY
Partneriaethau Rhwydwaith AGChY

Cydlynwyr AG a Chwaraeon Ysgol:
Ceir cydlynwyr AGChY sy’n gweithio ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru ac sy’n sicrhau bod y prosiect yn cael ei gyflwyno’n lleol. Er mwyn canfod y person cyswllt ar gyfer eich ardal, dyma restr o – Fanylion cyswllt y cydlynwyr.
Sefydliadau Addysg Uwch:
Mae pump o’r SAU’au yn rhan o grwp rhwydweithio sy’n sefydlu canlyniadau safonau lleiafswm ar gyfer HYD ac yn bwydo i ddatblygiad rhaglen DPP ar gyfer athrawon. Mae’r SAU’au hyn yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno rhai o’r cyrsiau AGChY. Am wybodaeth bellach ewch i’r dudalen ar Ddatblygiad Proffesiynol.
Dawns Cymunedol Cymru: 
Mae’r sefydliad ymbarél hwn a’i aelodau’n cyfrannu at brosiect Dawns y cynllun AGChY drwy ddarparu cyngor a chyfeiriad i’r strategaeth gyffredinol a hefyd datblygu cyrsiau i gefnogi mentoriaid dysgu, hyfforddwyr dawns ac athrawon. Am wybodaeth bellach am y prosiect Dawns, ewch i’r dudalen ar Brosiectau Arbenigol. Am wybodaeth bellach am y cyrsiau sydd ar gael, ewch i’r dudalen ar Ddatblygiad Proffesiynol.
Estyn: 
Arolygiaeth Ei Mawrhydi ar gyfer AG sy’n cyfrannu at ddatblygu’r agweddau allweddol ar y prosiect ac mae ganddo rôl, drwy gyfrwng LlCC, i fonitro a gwerthuso’r prosiect drwy ymweld ag awdurdodau lleol a chynhyrchu adroddiad blynyddol. Gwnaethwyd y gwerthusiad mwyaf diweddar o'r Prosiect AGChC yn ystod 2005/2006 ac allwch glicio yma i weld rhagor o wybodaeth ar y werthusiad.
