Pobl Ieuainc Egnïol

AGChY

AG a Chwaraeon YsgolSefydlwyd y Prosiect Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol (AGChY) yn 2000 o ganlyniad i adroddiad tasglu a oedd yn amlinellu’r camau allweddol yr oedd angen eu cymryd i godi safonau mewn AG. Dyma gopi o adroddiad tasglu.

Amcan y prosiect yw codi safonau mewn addysg gorfforol drwy sicrhau bod pob ysgol yn:

  • Rheoli’r pwnc yn effeithiol oddi mewn i gwricwlwm yr ysgol gyfan;
  • Gosod targedau heriol ar gyfer codi safonau mewn addysg gorfforol a chwaraeon ysgol;
  • Darparu digon o amser yn y cwricwlwm i ddysgu gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer addysg gorfforol ym mhob cyfnod allweddol;
  • Datblygu sgiliau corfforol pobl ieuainc o un flwyddyn i’r llall a gwella eu dealltwriaeth o bwysigrwydd iechyd a ffitrwydd;
  • Codi safonau mewn addysg gorfforol a chwaraeon ysgol drwy sefydlu rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) achredol ar gyfer pob athro;
  • Cefnogi ysgolion Cymru i ehangu’r cyfleoedd ar gyfer chwaraeon ysgol y tu hwnt i’r diwrnod ysgol drwy wella safon ac ehangder y gweithgareddau ar ôl ysgol ar gyfer pob person ifanc, waeth beth yw eu hoedran, gallu, ethnigrwydd, rhyw neu leoliad daearyddol;
  • Sefydlu Partneriaethau Canolfannau Datblygu a sicrhau eu bod yn cydweithio er mwyn adnabod a datblygu arfer dda mewn addysg gorfforol a chwaraeon ysgol.

skippingRheolir y prosiect AGChY gan Gyngor Chwaraeon Cymru ar ran Cynulliad Cymru. Cefnogir CChC gan dîm gweithredu cenedlaethol yn cynnwys arbenigwyr mewn AG o bob cwr o Gymru. Mae’r arbenigwyr hyn yn ymgynghorwyr hefyd, yn cefnogi datblygiad y prosiectau arbenigol a thîm o hyfforddwyr cenedlaethol i gefnogi’r gwaith o gyflwyno rhaglenni hyfforddi o safon uchel fel rhan o’r prosiect.

Prosiectau Arbenigol:

Mae nifer o feysydd yn y cwricwlwm wedi cael eu harenwi fel rhai sydd angen cefnogaeth benodol er mwyn datblygu adnoddau a / neu ddulliau o weithredu cenedlaethol. Datblygwyd y rhain yn brosiectau arbenigol cenedlaethol a dangosir y cynnydd ym mhob maes isod. Am fanylion pellach ewch i’r dudalen ar Brosiectau Arbenigol.

Amcanion Partneriaethau’r Canolfannau Datblygu:

  • Codi safonau mewn AG drwy sicrhau bod gan bob ysgol ddulliau addysgu a dysgu effeithiol mewn AG, sy’n hanfodol er mwyn sicrhau cysondeb mewn cyrhaeddiad a gwelliannau mewn safonau ledled Cymru.
  • Bod yn ymroddedig i reoli’r pwnc yn effeithiol yng nghwricwlwm yr ysgol gyfan drwy ddarparu 2 awr yr wythnos o AG o safon uchel ar gyfer bob plentyn, fel bod yr athrawon yn cael digon o amser i gyflwyno’r hyn sy’n ofynnol yn y Cwricwlwm Cenedlaethol. Hefyd, dylid darparu cyfleoedd i athrawon baratoi a chynllunio ar gyfer newidiadau yn y dyfodol i’r cwricwlwm, ac yn y byd addysg yn gyffredinol.
  • Datblygu cysondeb a chynnydd wrth ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau corfforol pobl ieuainc yn y bartneriaeth a rhwng y cyfnodau allweddol.

Am fanylion pellach, ewch i dudalen Partneriaethau Canolfannau Datblygu AGChY.