Pobl Ieuainc Egnïol

Pam nofio? - Barn y selebs

Mae nofio’n sgil bywyd ac yn achub bywydau
• Mae nofio’n haws i rai pobl sy’n teimlo bod gweithgarwch corfforol arall yn anodd iddynt – y rhai gyda phroblemau symud er enghraifft, a’r rhai sydd eisiau ymarfer effaith isel
• Mae nofio’n cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau, yn cynnwys sesiynau hwyl, cadw’n heini mewn dŵr, cylchedau dŵr, cyfamserol, polo dŵr a gwersi nofio a nofio hyd y pwll.
• Gall unigolion nofio ar eu pen eu hun neu mewn grwpiau anffurfiol neu drefnus
• Gall teuluoedd nofio gyda’i gilydd
• Mae nofio’n weithgaredd i bob oedran
• Mae nofio’n agor y drws ar chwaraeon dŵr amrywiol, yn cynnwys rhwyfo, syrffio, hwylio, deifio sgwba etc.
• Mae clybiau nofio a grwpiau trefnus eraill yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli a datblygiad gyrfa / personol.


David Davies – Enillydd Medal Efydd Olympaidd, Athen 2004, 1500m Dull Rhydd

"Mae nofio’n rhagorol ar gyfer darparu ffitrwydd cyffredinol oherwydd mae’n siapio eich corff cyfan ac yn gwneud i’r galon guro’n gyflym.

"Mae’n gamp y gall pob oedran gymryd rhan ynddi – am hwyl neu’n gystadleuol – ac mae’r manteision yn aruthrol. Mae cymaint o gyfleusterau rhagorol i’w cael ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru ac felly fe hoffwn annog pawb, hen ac ifanc, i fanteisio ar y Fenter Nofio Am Ddim a mynd amdani."