Meini Prawf ar gyfer Cyllid Llywodraeth Cynulliad Cymru
Grwpiau Targed:
- Nofio am ddim i bob plentyn dan 8 oed pan yng nghwmni oedolyn (oedolion) yn talu (yn unol â pholisïau lleol ar gymarebau oedolion / plant) yn ystod pob gwyliau o’r ysgol.
- Nofio am ddim i bob plentyn a pherson ifanc rhwng 8 ac 16 oed yn ystod pob gwyliau o’r ysgol; dylai cynlluniau lleol roi lle i amrywiaethau yn y patrymau yn ystod gwyliau’r ysgol.
- Dylai’r awdurdodau ledled Cymru sy’n cymryd rhan yn y cynllun annog a hybu cyfranogiad gan deuluoedd. Bydd y gwerthusiad yn ceisio adnabod arfer dda a blaengaredd.
Darpariaeth Leiafswm:
- Darperir nofio am ddim (chwarae am ddim a / neu weithgareddau strwythuredig am ddim) am leiafswm o 50% o’r holl amser ar gyfer sesiynau nofio cyhoeddus ym mhob rhan o’r awdurdod.
- Darperir lleiafswm o awr y dydd ym mhob awdurdod lleol ar gyfer rhaglen weithgarwch strwythuredig am ddim ar gyfer grwpiau targed (ee grwpiau duon a lleiafrifoedd ethnig, gwersi nofio drwy gyfrwng y Gymraeg, sesiynau ar gyfer plant difreintiedig, cyflwyniad i weithgareddau dyfrol eraill). Wedi gwerthusiad cwsmer o’r fenter, mae pawb cysylltiedig â hi’n dymuno annog cyfran uwch o weithgarwch strwythuredig.
- Dylid neilltuo o leiaf un o’r sesiynau uchod ar gyfer sesiwn strwythuredig i blant ag anabledd. Anogir yr awdurdodau i ddarparu cefnogaeth a chymhelliant i ofalwyr plant gydag anabledd – bydd y gwerthusiad yn ceisio adnabod arfer dda a blaengaredd.
