Pobl Ieuainc Egnïol

Nofio Teulu - Nofio am Ddim

Mae nofio’n cynnig gweithgarwch gwych i’r teulu cyfan ei fwynhau, heb dorri’r banc – o leiaf bydd y plant yn cael mynd am ddim! Ac os bydd taid neu nain 60 oed a hŷn yn cadw cwmni i’w wyrion neu wyresau wrth nofio, yna bydd y cyfan am ddim, gan fod pobl dros 60 oed yn mynd am ddim hefyd! Mae’n werth cofio hyn – yn enwedig gan fod llu o deidiau a neiniau’n gofalu am eu rhai bach yn ystod gwyliau’r ysgol.

Mae nifer o byllau nofio’r awdurdodau lleol yn cynnig sesiynau teulu, felly mae’n werth cysylltu â’ch canolfan hamdden leol i weld beth a gynhelir.

Mae rhai canolfannau hamdden yn ei gwneud yn hawdd iawn i deuluoedd, gyda chyfleusterau newid i deuluoedd, ac mae llochesi i bramiau hyd yn oed yn cael eu gosod mewn rhai ystafelloedd newid, er mwyn sicrhau bod pramiau / cadeiriau gwthio’n ddiogel tra ydych chi’n nofio.

Mae’n rhaid i blant dan wyth oed fod yng nghwmni oedolyn. Mae’r polisi mynediad yn amrywio o awdurdod i awdurdod felly mae’n syniad da cysylltu â’ch pwll nofio lleol os oes gennych fwy nag un plentyn dan wyth oed, i wirio’r gymhareb ar gyfer pob oedolyn.