Plant oedran 8-12 : Nofio Am Ddim
Waeth pa mor dda ydych chi am nofio, ewch draw i’ch canolfan hamdden leol yn ystod y gwyliau i gael hwyl gyda’ch ffrindiau. Nid dim ond nofio i fyny ac i lawr y pwll a gynigir, ond llawer, llawer mwy. Ydi, mae dysgu nofio’n bwysig am ei fod yn dysgu sgil oes i chi, ond hefyd mae’n rhoi cyfle i chi fwynhau chwaraeon dŵr eraill.
Os nad ydych yn gallu nofio, ’allwch chi ddim hwylio, rhwyfo, chwarae polo dŵr na chwarae yn y môr gyda’ch ffrindiau hyd yn oed.
Holwch eich canolfan hamdden leol, oherwydd cynhelir llu o sesiynau yn ystod y gwyliau, ac efallai y gallwch roi cynnig ar ganŵio, polo dŵr, caiacio neu achub bywyd. Mae’r lleoedd yn gyfyngedig yn y sesiynau hyn felly archebwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi.
Gallech fod yn dawnsio i’r caneuon diweddaraf gyda’ch ffrindiau hefyd, oherwydd mae llawer o byllau’n cynnal disgos dŵr, felly cofiwch gysylltu â’ch canolfan hamdden leol am wybodaeth bellach. Gallwch hefyd fodloni ar ddim ond cael hwyl gyda’r teganau gwynt niferus sydd ar gael mewn pyllau – mae gan rai canolfannau hamdden jetsgis gwynt – swnio’n cŵl iawn!
