Ieuenctid oedran 13-16
Mae’r ysgol wedi cau, yr arholiadau’n anghof – beth am her newydd? Ewch draw i’ch canolfan hamdden leol yn ystod y gwyliau a dewis o blith y chwaraeon dŵr niferus a gynigir yno.
Beth am roi cynnig ar snorcelu, achub bywyd, caiacio, canŵio neu hyd yn oed bolo dŵr – nid dim ond y Teulu Brenhinol sy’n gallu mwynhau’r math yma o chwaraeon. Maen nhw ar gael AM DDIM yn eich canolfan hamdden leol.
Diolch i Fenter Nofio Am Ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru, gallwch gymryd rhan mewn chwaraeon dŵr amrywiol yn awr, sy’n gallu agor drysau ar lawer o bethau eraill, fel talent arbennig at y gamp honno, gwneud ffrindiau newydd, magu hyder ond, yn bwysicach na dim, cael HWYL!
Felly dewch yn eich blaen a rhowch orau i gwyno eich bod yn ddiflas. Ewch i lawr i’ch canolfan hamdden leol i weld beth sy’n digwydd yn eich pwll.
