Nofio am ddim

Awydd trochi yn eich canolfan hamdden leol AM DDIM yn ystod gwyliau’r ysgol? Yna plymiwch i mewn i weld beth a gynigir.
Byddwch yn synnu at yr hyn y gallwch ei wneud yn eich pwll nofio lleol, heb gostio’r un geiniog! Dyna reswm da dros ddal ati i ddarllen!
Diolch i Fenter Nofio Am Ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru, gallwch wneud defnydd o’ch pwll nofio hamdden lleol AM DDIM yn ystod pob gwyliau o’r ysgol, felly does dim esgus i chi fod yn ddiflas dim mwy!
Yn berthnasol i bob plentyn 16 oed ac iau, mae Menter Nofio Am Ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru’n galluogi i chi fynychu sesiynau trochi am ddim ar amseroedd penodol yn eich canolfan hamdden leol (bydd yr amseroedd yn amrywio ym mhob pwll mae’n bur debyg) ac o leiaf un sesiwn gweithgarwch strwythuredig AM DDIM bob wythnos yn ystod y gwyliau. Gall y sesiynau hyn amrywio bob gwyliau ac mewn gwahanol ganolfannau hamdden, ond y math o weithgareddau a all gael eu cynnwys yw:
• Snorcelu
• Achub bywyd
• Polo dŵr
• Canŵio
• Sesiynau blasu mewn clybiau
• Disgos dŵr
• Sesiynau hwyl
• Sesiynau teulu
Mae rhagor o wybodaeth ar wahanol lefelau o nofio ar gael islaw:
Llywodraeth Cynulliad Cymru - mae gwefan y Cynulliad yn cynnwys adran ar Nofio am Ddim .
Llywodraeth Cynulliad Cymru - Adroddiad Crynodeb Data am y cyfnod Ebrill 2004 hyd Medi 07.
Llythyron Newyddion Nofio Am Ddim
