Pobl Ieuainc Egnïol

Beth yw Campau’r Ddraig?

Menter a gyllidir gan Gyngor Chwaraeon Cymru drwy gyfrwng y Loteri Genedlaethol yw Campau’r Ddraig, yn cynnig cyfleoedd chwaraeon hwyliog a phleserus i blant 7-11 oed.

Yn gweithio’n agos gydag ysgolion a chlybiau chwaraeon cymunedol, mae Campau’r Ddraig yn cael effaith ddramatig ar gyfranogiad Teulu'r Ddraigchwaraeon drwy annog plant i gymryd mwy o ran mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon trefnus.

Diben y cynllun yw ehangu diddordebau chwaraeon y plant sydd eisoes yn cymryd rhan mewn chwaraeon a chynnwys y plant hynny nad ydynt yn cael cyfleoedd o’r fath y tu allan i’w gwersi AG.

Mae Campau’r Ddraig yn cyflwyno plant i hyfforddiant, datblygiad sgil a chystadlaethau priodol gan ddefnyddio fersiynau o gemau i oedolion wedi’u haddasu i ddiwallu eu hanghenion a’u lefel sgil.

Defnyddir portffolio o wyth camp wedi’u haddasu fel rhan o’r cynllun. Yr wyth camp a gynigir gan y Ddraig yw rygbi, athletau, criced, pêl droed, hoci, pêl rwyd, tenis a golff.

Er bod prif ffocws Campau’r Ddraig ar wella’r ddarpariaeth chwaraeon ar gyfer plant 7-11 oed ledled Cymru, mae’r cynllun yn canolbwyntio hefyd ar recriwtio rhieni a gwirfoddolwyr eraill fel cynorthwywyr, i gefnogi datblygiad clybiau chwaraeon ar ôl ysgol a chlybiau cymunedol.

Cyflwyno’r Rhaglen

Hybir a chyflwynir Campau’r Ddraig drwy gyfrwng rhwydwaith o Gydlynwyr Campau’r Ddraig llawn amser sy’n gweithio ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Fe’i cefnogir gan amrywiaeth cynhwysfawr o gardiau adnoddau ac offer i helpu i gyflwyno sesiynau Campau’r Ddraig, gyda deunyddiau adnoddol pellach ar gael ar gyfer recriwtio a hyfforddi rhieni, athrawon a hyfforddwyr gwirfoddol. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddefnyddio’r adnoddau hyn i ddatblygu cyfleoedd y tu allan i gwricwlwm yr ysgol ac yn y gymuned.

Mae’r holl adnoddau’n cyd-fynd â’r cwricwlwm hefyd felly gall nifer o ysgolion ac athrawon ddewis eu defnyddio yn eu gwersi AG. Mae Campau’r Ddraig yn creu cysylltiadau gyda chlybiau chwaraeon a gweithgareddau cymunedol eraill drwy gynnig i blant a gwirfoddolwyr gyfleoedd i symud ymlaen at amrywiaeth eang o chwaraeon.

Mae Cydlynwyr lleol Campau’r Ddraig yn darparu cyngor a hyfforddiant cam wrth gam i helpu ysgolion, clybiau chwaraeon a gwirfoddolwyr i gyflwyno Campau’r Ddraig. Cynigir y cymorth hwn i ysgolion a chlybiau drwy gyfrwng rhaglen estynedig, y cytunwyd arni mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ymgynghorwyr AG, cyrff rheoli chwaraeon cenedlaethol, ysgolion a darparwyr chwaraeon lleol eraill. Gall canolfannau hamdden, grwpiau ieuenctid a sefydliadau gwirfoddol gyflwyno Campau’r Ddraig hefyd.

Campau’r Ddraig

  • wedi’i addasu i fod yn addas i oedran, maint, gallu, sgiliau a phrofiad plant;
  • yn defnyddio rheolau syml, offer a mannau chwarae llai a hyfforddiant hwyliog;
  • yn paratoi chwaraewyr ar gyfer fersiwn oedolion y gêm;
  • yn debyg i’r gamp y mae wedi’i seilio arni;
  • yn ddiogel ond eto’n heriol.

I ymeld â gwefan Campau’r Ddraig, cliciwch yma.