ActiveMarc Cymru
Beth yw achrediad ActiveMarc Cymru?
Dyfernir ActiveMarc Cymru i ysgolion sy’n gallu dangos ymrwymiad i ddatblygu AG a Chwaraeon Ysgol o safon uchel. Pan fydd ysgol yn gwneud cais am ddyfarniad ActiveMarc Cymru, mae’n ymrwymo i broses o hunanwerthuso gan arenwi cryfderau a meysydd ar gyfer eu datblygu. Mae’r ffurflen gais yn unol â fframwaith Estyn, yn seiliedig ar y 7 cwestiwn allweddol.
Pwy all wneud cais?
- Ysgolion Cynradd
- Ysgolion Babanod
- Ysgolion Gynradd
- Ysgolion Uwchradd
- Ysgolion Arbennig
- Ysgolion Annibynnol
Nid canfod yr ysgolion gyda’r cyfleusterau gorau yw diben ActiveMarc Cymru. Mae’r ffocws ar ddarpariaeth o ansawdd dda a safonau uchel.
Beth fyddwch chi’n ei gael?
Bydd yr ysgolion a fydd yn derbyn statws ActiveMarc Cymru’n derbyn tystysgrif ac yn gallu arddangos logo ActiveMarc Cymru ar ddogfennau’r ysgol a’i gwefannau am 3 blynedd.
Sut a pryd i Wneus Cais am ActiveMarc Cymru?
Bydd y rhaglen nesaf o achredu ActiveMarc Cymru yn y flwyddyn academaidd 2009-10. Bydd y ffurflen gais a nodiadau cyfarwyddyd ar gael ar y wefan yma o Medi 2009 ymlaen, a disgwylir y dyddiadau cyflwyno'r ceisiadau fod tua diwedd Chwefror 2010 (y dyddiad yn hyblyg).
Gwybodaeth Diweddaru:
Caiff Ysgolion wybodaeth am benderfyniad asesiad eu cais ym Mehefin 2009.
Bydd gwybodaeth ar bresenoldeb sydd yn cael ei ddatgan i Gyngor Chwaraeon Cymru drwy raglenni Campau'r Ddraig a 5x60 yn cael eu hystyried wrth asesu ceisiadau ActiveMarc Cymru.
Datganiad y Wasg 25ain Hydref - Western Mail
Erthygl ar Ysgolion yn Anelu at Wobr Newydd am Weithgarwch gan Abbie Wightwick.
