Pobl Ieuainc Egnïol

Yn Y Parth 2

Mae poblogrwydd Yn Y Parth wedi symbylu’r galw am well defnydd o diroedd ysgolion er mwyn hybu gweithgarwch corfforol yn ystod amseroedd cinio.

Dan gynllun 5x60, mae’r swyddogion yn gweithio gydag ysgolion uwchradd er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth o weithgarwch corfforol. Os yw plant yn defnyddio gwasanaeth bws yr ysgol, mae amseroedd cinio’n gyfle delfrydol i gymryd rhan mewn gweithgarwch.

In the zone (e-w)

O gadw hyn mewn cof, ar hyn o bryd rydym yn gweithio i gynhyrchu arf a fydd yn cefnogi ysgolion uwchradd i ddatblygu’r maes gwaith hwn.

Bydd dwy brif elfen i’r prosiect hwn:

  • Gweithdy ar gyfer aelod o’r uwch-dîm rheoli a’r swyddog 5x60. Bydd y gweithdy’n edrych ar sut mae’r gwaith hwn yn cael ei gynnwys mewn sawl agenda mewn ysgolion, mewn datblygiadau ledled yr ysgol gyfan, wrth gynllunio ar gyfer datblygiad ac wrth ddechrau arni, a cheir enghreifftiau o ysgolion ledled y wlad.
  • Ceir modiwl arwain a fydd yn rhoi sylw i arweinyddiaeth yn y chwaraele. Yn ddelfrydol, dylid cynnwys y modiwl hwn yn rhan o Arweinwyr Chwaraeon a bydd yn edrych ar swyddogaeth arweinydd y chwaraele, yn cynnwys defnydd o gynlluniau benthyg offer, gweithio fel tîm, cynnwys y rhai nad ydynt yn cymryd rhan a chadw’r chwaraele’n fyw. Bydd cardiau adnoddau’n cyd-fynd â’r modiwl hwn.

Hefyd, cynhwysir astudiaethau achos a gwybodaeth ychwanegol yn y wefan.

Hybir y prosiect ledled yr ysgolion drwy gyfrwng strwythur cyfarfodydd PIE. Bydd ysgolion yn gwneud cais drwy gyfrwng rheolwr llinell 5x60.