Rhaglen 5 x 60
5X60 Programme
Bwriad y rhaglen 5X60 newydd yw cyfrannu’n sylweddol at darged Cynulliad Cenedlaethol Cymru o gael 90% o ddisgyblion uwchradd yn cymryd rhan mewn 60 munud o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos erbyn 2020. Yn seiliedig ar lwyddiant y cynlluniau peilot dechreuol, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n bwriadu buddsoddi ryw £7.6 miliwn yn ystod y 3 blynedd nesaf ac mae am i bob ysgol uwchradd yng Nghymru ymwneud â’r rhaglen erbyn 2009.

Bydd y rhaglen 5x60 yn newid y dull o ddarparu chwaraeon mewn ysgolion, gan drawsnewid caeau chwarae a neuaddau chwaraeon yn fwrlwm o weithgarwch o fore gwyn tan nos. Bydd swyddogion 5x60 yn gweithio mewn ysgolion uwchradd a’u swyddogaeth hwy fydd ymgynghori gyda’r disgyblion, gwrando ar eu hanghenion a gweld pa rwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau. Byddant yn trefnu rhaglen o weithgareddau sy’n diwallu anghenion y disgyblion. Gall y gweithgareddau hyn gael eu cynnal cyn y gwersi yn y bore, yn ystod amser cinio, ar ôl ysgol neu ar benwythnosau. Bydd y gweithgareddau’n targedu’r unigolion nad ydynt yn cymryd rhan ar hyn o bryd neu sydd mewn perygl o golli diddordeb.
Y gweithgareddau sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y cynlluniau peilot yw:
• Gweithgareddau cystadleuol traddodiadol. Byddai hyn yn parhau â’r math o weithgareddau y maent wedi’u mwynhau eisoes drwy gyfrwng Campau’r Ddraig. Gellir cynnig y gweithgareddau hyn ar ffurf cystadlaethau rhwng tai / dosbarthiadau ac, yn y cynlluniau peilot, fe barhaodd llawer mwy o’r disgyblion i gymryd rhan.
• Gweithgareddau hamdden fel dawns, ffitrwydd aerobig, trampolinio; bu galw mawr am y math yma o weithgareddau mewn rhaglenni blaenorol.
• Gweithgareddau a hyfforddir mewn sefyllfa fwy anffurfiol, gan roi cyfle i ddisgyblion ddysgu sgiliau sylweddol a thrwy hynny fwynhau ychydig mwy ar y gêm. Yn y cynlluniau peilot, sicrhawyd cyswllt â chlwb tenis mewn un achos fel bod y disgyblion yn cael cyfle i dderbyn hyfforddiant er mwyn gallu chwarae tenis fel rhan o ystol denis yr ysgol.
• Gweithgareddau yn yr Awyr Agored. Mae gan Gymru adnoddau naturiol gwych ac maent ar gael i bawb. Gobeithir cynnig cyfleoedd yn cynnwys yr awyr agored i gymaint o bobl ieuainc ag y bo modd. 
Bydd cael hyd i gyflwynwyr addas yn rhan allweddol o waith y swyddog 5X60. Byddant yn darparu cyfleoedd hyfforddi i ddisgyblion hyn yn yr ysgol; bydd hyn wedyn yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen. Bydd yr hyfforddiant yn darparu cymhwyster i’r disgyblion er mwyn eu galluogi i gyfrannu at y gweithlu. Bydd gwirfoddolwyr a hyfforddwyr o’r gymuned leol yn ymwneud â chyflwyno’r rhaglen hefyd.
Bydd darparu cyswllt clwb ac allanfeydd i’r disgyblion yn hanfodol hefyd, er mwyn gwneud y rhaglen yn gynaladwy. Mae disgwyl i 5X60 ennyn mwy o ddiddordeb mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ffyrdd amrywiol. Bydd y swyddogion 5X60 yn gorfod ffurfio mwy o gyswllt gyda’r gymuned a’r timau datblygu chwaraeon er mwyn gallu bodloni’r galw hwn.
Drwy gyfrwng y rhaglen hon, credir y bydd y disgyblion yn cael cyfle i roi cynnig ar weithgareddau amrywiol nad ydynt ar gael iddynt yn yr ysgol ar hyn o bryd. Bydd y bobl ieuainc hyn yn teimlo eu bod yn berchen ar y rhaglen a byddant yn gallu ei haddasu i fod yn addas i’w hanghenion. Mae ethos 5X60 yn debyg i Gampau’r Ddraig gan mai sicrhau bod disgyblion yn cael hwyl wrth gymryd rhan yw’r prif darged. Os bydd hyn yn digwydd ac os bydd y disgyblion yn mwynhau’r cyfleoedd i’r eithaf, yna maent yn fwy tebygol o ddal ati i gymryd rhan mewn gweithgarwch drwy gydol eu hoes.
