Pobl Ieuainc Egnïol
Ceir tystiolaeth gynyddol bod plant egnïol yn tyfu i fyny i fod yn oedolion egnïol. Bydd plant heddiw’n oedolion ieuainc yn y 2020au. Bydd buddsoddi mewn datblygu cyfranogiad pobl ieuainc yn creu newid diwylliannol hirdymor ac arferion oes gan arwain at fanteision i iechyd a chynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon.
Mae pobl ieuainc wedi bod yn ffocws i lawer o waith Cyngor Chwaraeon Cymru ers nifer o flynyddoedd. Mae cyfranogiad plant a phobl ieuainc mewn sesiynau allgyrsiol a chlwb wedi cynyddu’n ddramatig yn ystod y cyfnod hwnnw.
Er bod cynnydd rhagorol wedi’i wneud, mae her i’w hwynebu o hyd, yn cynnwys codi safonau mewn addysg gorfforol a chynyddu’r cyfleoedd i blant o bob gallu gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol trefnus gyda strwythur clir.
Mae gwaith Pobl Ieuainc Egnïol Cyngor Chwaraeon Cymru’n ceisio:
- Dysgu sgiliau a hyder i blant fel eu bod yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, drwy ddarparu AG o safon uchel a llythrennedd corfforol;
- Cyflwyno plant i amrywiaeth pleserus a threfnus iawn o weithgareddau chwaraeon a chorfforol;
- Sicrhau bod y cyfleoedd i blant gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ddigonol er mwyn esgor ar fanteision iechyd;
- Sicrhau bod plant yn derbyn cefnogaeth ac yn cael eu cymell i ddal ati i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar y lefel o’u dewis hwy drwy gydol eu bywyd;
- Sicrhau bod pobl yn dysgu sgiliau priodol ac yn magu hyder a dealltwriaeth er mwyn cyflwyno cyfleoedd amrywiol i gyflawni’r amcanion uchod. Er mwyn dal ati i ddatblygu a chefnogi’r bobl hyn, darparu datblygiad proffesiynol parhaus a chyfleoedd hyfforddi a chefnogi eraill.
- Dylai pob plentyn gyflawni a theimlo ei fod yn llwyddo mewn AG, chwaraeon a gweithgarwch corfforol, waeth beth yw ei allu. Er fod hyn yn berthnasol i bob plentyn, dylid denfyddio’r athroniaeth yn fwy penodol i gynnwys ac integreiddio pobl ieuainc anabl;
- Mae’n rhaid i’r gwaith i gyd gydymffurfio â safonau derbyniol o ran ansawdd, tegwch, eglurder, atebolrwydd, cydraddoldeb, parch a dwyieithrwydd;
- Dylid helpu plant ac oedolion i ddeall bod chwarae’n deg yn gwneud chwaraeon yn fwy o hwyl a dylid annog egwyddorion ‘Chwarae Teg’ ym mhob agwedd ar y gwaith;
- Dylid dysgu am bwysigrwydd gweithgarwch corfforol rheolaidd er mwyn cadw’n iach i blant ac oedolion. Lle bo modd, dylai unrhyw ddull o weithredu gydymffurfio ag arfer dda mewn agweddau eraill ar hybu iechyd, fel bwyta byrbrydau iach ac yfed dwr;
- Dylid ystyried cyfraniad ehangach AG, chwaraeon ysgol a gweithgarwch corfforol tuag at sgiliau bywyd ehangach a datblygiad cyflawn plentyn;
- Yn fwy na dim, dylai cymryd rhan mewn AG, chwaraeon a gweithgarwch corfforol fod yn hwyl ac yn bleser.
Athroniaethau
Yn holl waith Cyngor Chwaraeon Cymru gyda phlant a phobl ieuainc, ceir rhai athroniaethau sylfaen penodol. Maent fel a ganlyn:
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cynnal 3 rhaglen allweddol i gefnogi Pobl Ieuainc Egnïol. Y rhain yw:
Campau’r Ddraig: rhaglen yn ceisio cynyddu’r cyfleoedd i blant 7-11 oed gymryd rhan mewn chwaraeon allgyrsiol a chymunedol;
AG a Chwaraeon Ysgol: prosiect yn ceisio codi safonau mewn addysg gorfforol mewn ysgolion;
5x60: rhaglen yn ceisio cynyddu’r cyfleoedd allgyrsiol mewn ysgolion uwchradd.
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru hefyd yn cefnogi gwaith sy’n cysylltu ysgolion a chlybiau â mentrau a sefydliadau ar gyfer pobl ieuainc, fel Nofio Am Ddim.
Llundain 2012
Addysg a Threftadaeth 2012: dilynwch y cyswllt yma i weld gwefan Llundain 2012. Os cliciwch ar 'cymryd rhan' a dilyn y tab Addysg, fe welwch bod nifer o weithgareddau i ysgolion y gellir cael hyd iddynt drwy gyfrwng injian chwilio a elwir yn 'ar eich marc'. Gellid defnyddio'r rhain mewn amser cwricwlaidd ac allgyrsiol.
Ceir hefyd gystadleuaeth 'FeloFreuddwyd' ar gyfer disgyblion dan 16 oed. Mae LlCC am i'r adnoddau a'r cystadlaethau hyn gael eu defnyddio gan ysgolion yng Nghymru. Gadewch i ni wybod os cewch hyd i unrhyw beth defnyddiol neu os yw'r ysgolion yn eich ardal yn defnyddio unrhyw rai o'r adnoddau.
