Pobl Hyn
Mae canolfannau hamdden yn targedu mwy o weithgareddau tuag at y genhedlaeth hyn, gyda dosbarthiadau penodol ar gyfer pobl dros 50 oed.
T'ai Chi:
Mae T'ai Chi yn tawelu’r corff ac yn ymlacio’r meddwl, ac mae iddo sawl mantais i iechyd a ffitrwydd. Mae hefyd yn gyfres araf o symudiadau sy’n datblygu cryfder, hyblygrwydd, ymwybyddiaeth o’r corff ac, yn arbennig, cydbwysedd. Yn addas i bob lefel ffitrwydd, mae hefyd yn lleihau pryder a straen.
Dawnsio:
Gan ddibynnu ar ba mor egnïol ydych chi’n dawnsio, a ydych chi’n dawnsio’n barhaus a pha mor rheolaidd ydych chi’n gwneud hynny, gall y math yma o weithgaredd arwain at bwysau gwaed is, lefelau colesterol gwell a churiad calon is.
Mae pobl ar hyd a lled y wlad yn mwynhau’r dawnsio diweddaraf, o ddawnsio bol i ddawnsio llinell, ac o ddawnsfeydd te i ddawnsio creadigol. Mae dysgu’r symudiadau dawnsio’n ffordd effeithiol o ymarfer yn ysgafn ac o gymorth i wella’r cof.
Ioga:
Ceir gwahanol fathau o ioga, gyda rhai’n fwy egnïol nag eraill. Mae ioga o gymorth i gynnal hyblygrwydd, siâp y cyhyrau a chryfder, gan leihau pryder a datblygu ymwybyddiaeth o’r corff.
Sesiynau Gym:
Bydd pob gym sy’n perthyn i awdurdodau lleol yn fwy na pharod i gynnig cymorth a chyngor i chi ynghylch y dosbarthiadau priodol. Mae rhai’n cynnig rhaglenni neu ddosbarthiadau ffitrwydd penodol iawn hyd yn oed.
Chwaraeon Tîm:
Mae chwarae gêm o denis neu fadminton ar ffurf dyblau’n ffordd ddelfrydol o gynnal ffitrwydd cardiofasgiwlar, cyflymdra a stamina pan yn hyn. Ond yr hyn a argymhellir gan arbenigwyr yw dechrau’n araf ac yna adeiladu’n raddol. Efallai fod gan ganolfannau hamdden yn eich ardal ddosbarthiadau dros 50 oed penodol fel rhan o’u hamserlen ddyddiol.
Ceir hefyd rai gweithgareddau yr ydych eisoes yn eu cynnwys yn eich bywyd bob dydd efallai, ac y gallwch eu haddasu fel bod angen gwneud mymryn mwy o ymdrech.
Ymhlith yr enghreifftiau o’r fath mae mynd â’r ci am dro, garddio, defnyddio’r grisiau yn lle’r lifft, beicio i’r siop i brynu’r papur dyddiol, gweithgareddau gyda wyrion a wyresau, fel taflu ffrisbi neu hedfan barcud, cerdded i’r arosfan bws nesaf neu ddod oddi ar y bws stop yn gynharach. Waeth beth ydych yn ei wneud, mwynhewch!
