Pobl Hyn
Wrth i ni fynd yn hyn, mae ein siawns o ddatblygu afiechyd ar y galon yn cynyddu. Hyd yn oed os ydych wedi cael trawiad ar y galon eisoes, mae rhaglen o weithgarwch corfforol yn lleihau’r risg o gael trawiad arall.
Mae’r risg o ddioddef o osteoporosis yn cynyddu i ddynion a merched wedi iddynt gyrraedd 50 oed. Gall ymarfer rheolaidd ddylanwadu’n bositif ar y cyflwr a chwarae rhan yn y broses wella.
Mae cryfder y cyhyrau a dwysedd yr esgyrn yn dirywio gydag oedran, ac mae’n anos cyflawni gweithgareddau o ddydd i ddydd. Rydych yn fwy tebygol o syrthio ac anafu. Drwy ymarfer yn rheolaidd, gall pobl hyn elwa hefyd o well ystum, cydbwysedd a hyblygrwydd.
Gwelwyd bod cadw’n heini o gymorth i gof pobl hyn a cheir digon o fanteision cymdeithasol! Byddwch yn darganfod bod llawer o gyfleoedd ar gael i gwrdd ag eraill yn y gymuned a chadw’n heini gyda’ch gilydd.
Mae’n bwysig ceisio cyngor gan feddyg teulu cyn dechrau ar raglen ymarfer – yn arbennig os ydych yn dioddef o afiechyd ar y galon, llid y cymalau neu asthma. Gall y newidiadau lleiaf wneud gwahaniaeth mawr, felly dydi hi byth yn rhy hwyr i ymarfer!
Mae ymarfer yn rhywbeth y gall unrhyw un gymryd rhan ynddo, waeth beth yw eu hoedran a’u gallu. I’r rhai sy’n mwynhau ymarfer ar eu pen eu hunain, mae cerdded neu nofio’n ddelfrydol, ond os yw’n well gennych gael cwmni, ceir nifer o glybiau a dosbarthiadau ledled Cymru a fydd yn darparu ar gyfer eich anghenion.
