Oedolion Egnïol

Teuluoedd

AR EICH BEIC

Mae beicio’n llosgi mwy na 650 o galorïau yr awr ac yn weithgaredd hwyliog arall i’r teulu.

Mae llawer o bobl yn erbyn cael set i blentyn bach ar gefn eu beic ond o sicrhau bod gennych chi a’ch plentyn helmed ddiogelwch addas, does dim rheswm pam na allwch fynd â’ch plant gyda chi. Gall plant hyn reidio beic tandem gyda chi neu gellir ychwanegu beic ar gefn eich beic chi hefyd.

CHWARAE I GADW’N HEINI

Mae’n syndod faint o galorïau allwch chi eu llosgi drwy chwarae gemau gyda’ch plant yn y parc neu’r ardd, fel pêl swing, pêl droed, bat a phêl ac ati.

Er enghraifft, mae 30 munud o bêl droed yn llosgi 200 o galorïau, 30 munud o gemau pêl yn llosgi 168 o galorïau a 15 munud o gemau rhedeg yn llosgi 185 o galorïau. A bydd eich plant wrth eu bodd efo chi!

BOWNSIO I GADW’N HEINI

Buddsoddwch mewn trampolîn ar gyfer yr ardd i gadw’r teulu cyfan yn heini. Bydd bownsio i fyny ac i lawr am 20 munud yn llosgi mwy na 160 o galorïau ac yn helpu i siapio’r coesau a’r cluniau.

Yn bwysicach na dim, gwnewch weithgarwch corfforol yn hwyl! Ni fyddwch yn cael llawer o lwyddiant wrth ddweud wrth blant bod cadw’n heini yn hwyl – mae’n rhaid i chi ddangos hynny iddynt!